Coedlan y Parc

From Wikipedia, the free encyclopedia

Coedlan y Parc
Remove ads

Maes pêl-droed yn nhref Aberystwyth, Ceredigion yw Coedlen y Parc (Saesneg: Park Avenue). Saif ger glan Afon Ystwyth yn rhan ddeheuol y dref. Mae'n gartref i C.P.D. Tref Aberystwyth, clwb pêl-droed sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru a hefyd C.P.D. Merched Tref Aberystwyth a nifer o dimau ieuenctid a thîm anabl y dref. Mae Coedlen y Parc yn dal uchafswm o 5,000 o dorf gyda 1,002 o seddi. Ers tymor 2017-18 bu gan y maes llain 3G artiffisial yn hytrach na glaswellt.

Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
Thumb
Aberystwyth v Derwyddon Cefn ar Goedlan y Parc (2023)
Thumb
Coedlen Y Parc, maes Aberystwyth

Mae sawl ffeinal Cwpan Cynghrair Cymru wedi eu chwarae ar y maes a chwaraeodd George Best yno i dîm Ieuectid Gogledd Iwerddon bedair diwrnod cyn ei ben-blwydd yn 17 oed ar 18 Mai 1963.

Yn ddiwedd tymor 2017-18 dechreuwyd ar waith adeiladu fflatiau ar ochr ddeheuol y maes, sy'n gorwedd ar hyd Afon Rheidol. Bydd hyn yn rhoi teimlad mwy caëdig i'r maes.

Remove ads

Eisteddfeydd

Mae gan y maes pump brif eisteddle neu sefyll-le:

Railway End lle bu hen lein reilffordd Aberystwyth - Caerfyrddin
Eisteddle Dias ar ôl cyn-chwaraewr ac arwr y clwb, David 'Dias' Williams a sgoriodd dros 400 gôl i'r Clwb [1]
Eisteddle Rhun Owens ar ôl cyn Ysgrifennydd ffyddlon y Clwb [2]
Shed End
Narks Corner

Anrhydeddir selogion eraill y Clwb neu bêl-droed Cymru gan y Clwb hefyd:

Lolfa John Charles yw prif ystafell y bar y clwb. Enwyd ar ôl John Charles y chwaraewr enwog i Gymru, Juventus a Leeds United
Lolfa Emyr James - enwyd yr adeilad ar gornel gogledd ddwyrain y maes ar ôl yr Emyr, oedd yn aelod ffyddlon i'r Clwb bu farw yn Awst 2018.[3]
Remove ads

Dolenni

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads