Crefydd Geltaidd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Crefydd y Celtiaid Ewropeaidd hynafol oedd crefydd Geltaidd hynafol, hefyd a elwir yn baganiaeth Geltaidd yn gyffredinol.[1][2][3] Oherwydd diffyg cofnodion o'u hymarferion a'u credoau, daw tystiolaeth eu crefydd o archaeoleg, gwaith Groegaidd-Rufeinig (gyda rhai ohonynt yn gelyniaethus ac yn anwybodus), a llenyddiaeth o'r cyfnod Cristnogol cynnar.[4] Un o grefyddau Indo-Ewropeaidd grwpiau amldduwiol ehangach Oes Haearn Ewrop oedd paganiaeth Geltaidd.
Remove ads
Amldduwiaeth
Yn debyg i bobloedd eraill Ewrop yn ystod Oes yr Haearn, mythau a chrefydd amldduwiol oedd gan y Celtiaid. Roedd amldduwiaeth Geltaidd yn cynnwys nifer fawr o dduwiau. Duwiau lleol oedd llawer o'r rhain, a'u dylanwad wedi ei gyfyngu i lecyn arbennig. Ar y llaw arall roedd rhai duwiau oedd yn cael eu haddoli dros ardal eang iawn. Er enghraifft mae Lleu yng Nghymru yn cyfateb i Lugh yn Iwerddon a Lugos yng Ngâl. Mae'r "Dinlle" yn yr enw Dinas Dinlle yn ei hanfod yr un enw â Lugdunum, hen enw dinas Lyon. Ymddengys fod Epona, duwies ceffylau'r Galiaid (cymharer y gair "ebol" yn Gymraeg) yr un dduwies a Macha yn Iwerddon a Rhiannon yng Nghymru. Mae nifer o'r cymeriadau ym Mhedair Cainc y Mabinogi, fel Lleu a Rhiannon, i bob golwg yn dduwiau Celtaidd wedi eu troi yn gymeriadau o gig a gwaed. Esiampl arall yw Manawydan fab Llŷr, sy'n cyfateb i dduw'r môr, Manannán mhac Lir, yn Iwerddon. Uniaethir Mabon fab Modron yn chwedl Culhwch ac Olwen a'r duw Maponos, a enwir ar nifer o arysgrifau yng Ngâl a Phrydain. Un o'r prif dduwiau oedd y duw corniog, Cernunnos, efallai duw hela ac arglwydd y fforest.[5] Elfen arall oedd yn adnabyddus trwy'r byd Celtaidd oedd y triawd o fam-dduwiesau.[6]
Remove ads
Mytholeg
- Prif: Mytholeg Geltaidd
O ran y Celtiaid oedd mewn cysylltiad agos â Rhufain hynafol, gan gynnwys y Galiaid a'r Celtiberiaid, ni lwyddodd eu chwedloniaeth i oroesi gorchfygiadau'r Ymerodraeth Rufeinig, na'r dröedigaeth at Gristnogaeth, na cholled eu hieithoedd brodorol. Trwy ffynonellau Rhufeinig a Christnogol y cyfnod mae'r fytholeg hon wedi ei chadw yn bennaf. Parhaodd weddillion yr hen fytholeg ymhlith y bobloedd Geltaidd a gadwant eu hieithoedd, eu strwythurau cymdeithasol a'u hannibyniaeth wleidyddol, megis y Gaeliaid yn Iwerddon a'r Alban a'r Brythoniaid yng Nghymru, Cernyw a Llydaw, a rhoddwyd y straeon hynny ar ffurf ysgrifenedig yn ystod yr Oesoedd Canol.
Remove ads
Offeiriaid a defodau
- Prif: Derwyddiaeth
Mae awduron Rhufeinig yn cysylltu'r Celtiaid a'r Derwyddon ac yn cyfeirio at seremonïau crefyddol mewn llwyni coed sanctaidd. Ceir cyfeiriad at hyn yn hanes Tacitus am ymosodiad y Rhufeiniad dan Suetonius Paulinus ar Ynys Môn yn 60 OC.[7] Yn ôl Poseidonius ac awduron eraill roedd tri dosbarth yn gyfrifol am grefydd a diwylliant Gâl, y derwyddon, y beirdd a'r vates.[8] Dywed rhai awduron Rhufeinig, er enghraifft Iŵl Cesar a Plinius yr Hynaf, fod y Celtiaid yn aberthu bodau dynol i'r duwiau.[9] Yn ôl Cesar, roedd Derwyddiaeth wedi dechrau ym Mhrydain ac wedi lledaenu i Gâl.[10]
Gwyliau
Roedd pedair prif ŵyl yn y flwyddyn Geltaidd: "Imbolc" ar 1 Chwefror, yn gysylltiedig â'r dduwies Brigit ("Ffraid" yn Gymraeg); "Bealtaine" ar 1 Mai, cysylltiedig â ffrwythlondeb ac efallai â duw'r haul, Bel; "Lugnasad" ar 1 Awst yn gysylltiedig â'r cynhaeaf a'r duw Lleu a "Samhain", y pwysicaf o'r pedair, ar 31 Hydref/1 Tachwedd.[11] Ar ŵyl Samhain roedd y ffiniau rhwng y byd dynol a'r arallfyd (y byd ysbrydol) yn diflannu, syniad sy'n parhau i raddau yn rhai o arferion dathlu Gŵyl Calan Gaeaf. Calendr Coligny o Ffrainc, a ysgrifennwyd yng Ngaeleg, yw'r brif ffynhonnell ar gyfer y calendr Celtaidd. Dywed Iŵl Cesar eu bod yn mesur cyfnodau amser yn ôl nosweithiau yn hytrach na dyddiau, rhywbeth sydd efallai wedi goroesi yn y gair Cymraeg "pythefnos".[12]
Remove ads
Cristioneiddio
- Prif: Yr Eglwys Geltaidd
Cyrhaeddodd Cristnogaeth rannau mwyaf dwyreiniol y byd Celtaidd yn gynnar iawn; er enghraifft ysgrifennodd Yr Apostol Paul ei Epistol at y Galatiaid cyn 64 OC. Roedd Cristnogaeth wedi ei sefydlu yn y rhannau Celtaidd o'r Ymerodraeth Rufeinig erbyn y 4g,[13] a chenhadwyd Iwerddon yn y 5g. Credir fod rhai nodweddion o'r hen amldduwiaeth Geltaidd wedi goroesi yn nhraddodiadau, llên gwerin a llenyddiaeth y gwledydd Celtaidd i'r cyfnod Cristnogol a bod ei holion i'w gweld yn y chwedlau llenyddol, e.e. Pedair Cainc y Mabinogi, mewn chwedlau gwerin ac mewn arferion gwlad yn enwedig mewn perthynas â gwyliau, e.e. Calan Mai. Credir hefyd fod rhai o'r seintiau Celtaidd cynnar yn cynrychioli duwiau a duwiesau a Gristioneiddwyd, e.e. Ffraid/Brigit, neu fod eu bucheddau ysgrifenedig a thraddodiadau eraill amdanynt yn cynnwys elfennau sy'n deillio o'r hen grefydd.
Remove ads
Adferiad neo-baganaidd
Mae rhai ffurfiau ar neo-baganiaeth yn ceisio adfer agweddau o grefydd Geltaidd, gan gynnwys derwyddiaeth fodern, Adferiadaeth Geltaidd, ac Wica Geltaidd.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Llyfryddiaeth
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads