Cyfreitha newid hinsawdd
achosion cyfreithiol i fynd i'r afael â newid hinsawdd trwy achos barnwrol From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae cyfreitha newid hinsawdd (Saesneg: Climate change litigation), a elwir hefyd yn ymgyfreitha hinsawdd, yn gorff o gyfraith amgylcheddol a ddaeth i'r amlwg yn y 2000au a'r 2010au ac sy'm ymwneud â newid hinsawdd. Mae'r cyfreitha hon yn defnyddio arferion cyfreithiol i liniaru'r newidiadau a achosir yn yr hinsawdd gan sefydliadau cyhoeddus megis llywodraethau a chwmnïau. Oherwydd newidiadau araf mewn polisiau sy'n ymwneud â newid hinsawdd mae gweithredwyr a chyfreithwyr wedi cynyddu eu hymdrechion i ddefnyddio systemau barnwrol genedlaethol a rhyngwladol i hyrwyddo'u ymdrech.
Ers dechrau'r 2000au, mae'r fframweithiau cyfreithiol ar gyfer brwydro yn erbyn newid hinsawdd wedi bod ar gael yn gynyddol trwy ddeddfwriaeth, ac mae'r nifer cynyddol o achosion llys wedi datblygu yn gorff rhyngwladol o gyfreithiau sy'n cysylltu gweithredu (neu beidio â gweithredu) â heriau cyfreithiol. Gall hyn gynnwys cyfraith gyfansoddiadol, cyfraith weinyddol, cyfraith breifat, cyfraith amddiffyn defnyddwyr neu hawliau dynol. Mae llawer o'r achosion a'r dulliau llwyddiannus wedi canolbwyntio ar hyrwyddo anghenion cyfiawnder newid hinsawdd a mudiadiadau newid hinsawdd yr ieuenctid .
Ar ôl dyfarniad 2019 yn yr Iseldiroedd v. Sefydliad Urgenda, a orfodai'r Iseldiroedd i fynd i’r afael â newid hinsawdd, cafwyd llawer o achosion tebyg yn cael eu hennill yn llwyddiannus mewn llysoedd byd-eang. Yn 2019 gwelwyd cynnydd sydyn mewn achosion, , ac yn Chwefror 2020 cyhoeddodd Norton Rose Fulbright adolygiad yn nodi dros 1,400 o achosion mewn 33 o wledydd.[1] Yr adeg honno, roedd y nifer o achosion a oedd ar y gweill yn Unol Daleithiau'r America, lle roedd dros 1,000 o achosion yn cael eu clywed.
Remove ads
Mathau o gamau gweithredu
Mae ymgyfreitha yn yr hinsawdd fel arfer yn ymwneud ag un o bum math o hawliad cyfreithiol:
- Cyfraith gyfansoddiadol - canolbwyntio ar dorri hawliau cyfansoddiadol gan y wladwriaeth.
- Cyfraith weinyddol - herio rhinweddau gwneud penderfyniadau gweinyddol o fewn deddfau presennol ar y llyfrau, megis wrth roi caniatâd ar gyfer prosiectau lle ceir allyriadau uchel.
- Cyfraith breifat - herio corfforaethau neu sefydliadau eraill am esgeulustod, niwsans, tresmasu ac ymddiriedaeth y cyhoedd.
- Twyll neu amddiffyn defnyddwyr - herio cwmnïau am gamliwio gwybodaeth am effeithiau hinsawdd.
- Hawliau dynol - honni bod methu â gweithredu ar newid hinsawdd yn methu ag amddiffyn hawliau dynol
Remove ads
Yn ôl gwlad
Awstralia
Ym mis Chwefror 2020, Awstralia oedd â'r ail nifer fwyaf o achosion yn yr arfaeth yn y byd, gyda bron i 200 o achosion.[2]
Iwerddon
Yng Ngorffennaf 2020, enillodd Cyfeillion Amgylchedd Iwerddon achos pwysig yn erbyn Llywodraeth yr Iwerddon am fethu â chymryd camau digonol i fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd a'r argyfwng ecolegol.[3] Dyfarnodd Goruchaf Lys Iwerddon fod Cynllun Lliniaru Cenedlaethol 2017 llywodraeth Iwerddon yn annigonol, gan nodi nad oedd yn darparu digon o fanylion ar sut y byddai'n lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr .[4]
Yr Iseldiroedd

Roedd yr Iseldiroedd wedi ymrwymo i leihau ei hallyriadau carbon deuocsid o lefelau 1990 49% erbyn 2030 gyda thargedau canolradd amrywiol. Fodd bynnag, penderfynodd Asiantaeth Asesu Amgylcheddol yr Iseldiroedd y byddai'r wlad yn methu a chyrraedd y nod hwn ar gyfer 2020.
Yn 2012, cyhoeddodd cyfreithiwr o’r Iseldiroedd Roger Cox y syniad o ymyrraeth farnwrol i orfodi gweithredu yn erbyn newid hinsawdd. Yn 2013, roedd Sefydliad Urgenda, gyda 900 o gyd-gwynwyr (co-plaintiffs), wedi ffeilio achos cyfreithiol yn erbyn Llywodraeth yr Iseldiroedd "am beidio â chymryd mesurau digonol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n achosi newid peryglus yn yr hinsawdd".
Ym mis Rhagfyr 2019, cadarnhaodd Goruchaf Lys yr Iseldiroedd y dyfarniad ar apêl. Felly, gan gadarnhau bod yn rhaid i'r llywodraeth dorri allyriadau carbon deuocsid 25% o lefelau 1990 erbyn diwedd 2020, ar y sail bod newid hinsawdd yn peri risg i iechyd pobl.[5][6]
Y Deyrnas Gyfunol
Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd tri o ddinasyddion Lloegr, Marina Tricks, Adetola Onamade, Jerry Amokwandoh, a’r elusen Cynllun B, eu bod yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn llywodraeth y DU am fethu â chymryd camau digonol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol.[7][8] Cyhoeddodd y plaintwyr eu bwriad i honni bod cyllid parhaus y llywodraeth ar gyfer tanwydd ffosil yn y DU a gwledydd eraill yn torri eu hawliau i fywyd ac i fywyd teuluol, yn ogystal â thorri Cytundeb Paris a Deddf Newid Hinsawdd y DU yn 2008.[9]
Unol Daleithiau America
Yn Chwefror 2020, yr Unol Daleithiau oedd â'r achosion mwyaf arfaethedig gyda dros 1000 yn system y llysoedd.[2] Ymhlith yr enghreifftiau mae Connecticut v. Corp ExxonMobil a Massachusetts v. Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd y UDA.
Llys Hawliau Dynol Ewrop
Ym mis Medi 2019, fe wnaeth grŵp o chwech o blant ac oedolion ifanc o Bortiwgal ffeilio achos cyfreithiol yn Llys Hawliau Dynol Ewrop. Gyda chefnogaeth Rhwydwaith Gweithredu Cyfreithiol Byd-eang NGO Prydain (GLAN), dadleuwyd bod angen gweithredu yn erbyn newid hinsawdd yn galetach i ddiogelu eu lles corfforol a meddyliol cenedlaethau'r dyfodol. Gofynnodd y llys i 33 o lywodraethau Ewropeaidd egluro erbyn mis Chwefror 2021 a yw eu methiant i fynd i’r afael â gwresogi byd-eang yn torri Erthygl 3 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.[10][11]
Eraill
Ar ôl dyfarniad pwysig yr Iseldiroedd yn 2015, rhoddodd grwpiau mewn gwledydd eraill gynnig ar yr un dull barnwrol. Er enghraifft, aeth grwpiau i'r llys er mwyn amddiffyn pobl rhag newid hinsawdd yng Ngwlad Belg, India, Seland Newydd, Norwy, De Affrica, y Swistir a'r Unol Daleithiau.
Yn 2018, fe ffeiliodd deg teulu o wledydd Ewropeaidd, Cenia a Ffiji siwt yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd am y bygythiadau yn erbyn eu cartrefi a achosir gan allyriadau tŷ gwydr yr UE.[12]
Erlynodd grŵp o blant yng Ngholombia y llywodraeth am beidio ag amddiffyn yr Amazon ac am ei datgoedwigo a bod hyn yn cyfrannu at newid hinsawdd. Yn 2018, dyfarnodd y Goruchaf Lys fod fforest law Colombia yn "endid sy'n destun hawliau" yr oedd angen ei amddiffyn a'i adfer.[13]
Yn 2020, mewn achos llys gweinyddol yn Ffrainc, gwnaed datganiad ei bod yn ofynnol i weinyddiaeth Macron adolygu eu polisïau i fynd i’r afael â newid hinsawdd i sicrhau eu bod yn ddigon sylweddol i gyflawni ymrwymiadau Cytundeb Paris.[14][15][16]
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads