Cymal (anatomeg)

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Y man lle mae dau asgwrn yn cyfarfod yw cymal.[1] Mae cymalau wedi eu llunio i alluogi symudiad rhwydd a darparu cefnogaeth mecanyddol i'r corff; cânt eu dosbarthu yn ôl eu strwythur a'u swyddogaeth.[2]

Dosbarthiadau

Thumb
Darlun disg rhyngfertebrol, cymal cartilagaidd.
Thumb
Diagram o gymal synofaidd (diarthrosis).

Dosbarthir cymalau yn saith dosbarth, yn ôl eu strwythur a'u swyddogaeth yn bennaf. Penderfynir y dosbarth strwythurol yn ôl sut mae'r esgyrn yn cysylltu â'i gilydd, tra bod y dosbarth swyddogaethol yn cael ei benderfynu yn ôl y raddfa o symudiad sydd i'w gael rhwng yr esgyrn ymgymalu. Mae gorgyffrydiiad arwyddocaol rhwng y saith dosbarthiad yn ymarferol.

Dosbarthiad strwythrol

Mae dosbarthiad strwythurol yn enwi ac yn gwahanu cymalau yn ôl sut maent yn cysylltu â'i gilydd.[3] Mae tri is-ddosbarthiad o gymalau strwythurol:

  • Cymal ffibrog - sy'n cysylltu gyda meinwe gyswllt ffibrog
  • Cymal cartilagaidd - sy'n cysylltu gyda cartilag
  • Cymal synofaidd - sydd ddim yn cysylltu'n uniongyrchol

Dosbarthiad swythogaethol

Yn ogystal, gellir dosbarthu cymalau yn ôl eu swyddogaeth, yn ôl y raddfa o symudiad maent yn caniatáu:[4]

  • Cymal disymud (synarthrosis) - yn caniatáu ychydig iawn os unrhyw symudiad. Mae'r rhan fwyaf o gymalau disymud yn gymalau ffibrog (er enghraifft, llinellau asio y benglog).
  • Cymal lled-symudol (amffiarthrosis) - yn caniatáu ychydig o symudiad. Mae'r rhan fwyaf o gymalau lled-symudol yn gymalau cartilagaidd (e.e., fertebrâu).
  • Cymal symudol (diarthrosis) - yn caniatáu amryw o symudiadau. Mae pob cymal symudol yn gymal synofaidd (e.e., ysgwydd, clun, penelin, penglin ayb.), ac ystyrir y termau ‘diarthrosis’ a ‘synoffaidd’ i fod yn gyfwerth gan y Terminologia Anatomica.[5]
Remove ads

Cyfeiriadau

Gweler hefyd

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads