Datblygu
Grŵp ôl-pync, arbrofol Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Grŵp roc arbrofol oedd yn ei anterth yn yr 1980au a'r 1990au cynnar yw Datblygu, gwelir hwy heddiw fel catalydd ton newydd o roc Cymreig yn yr 1980au cynnar.
Remove ads
Hanes
Roedd aelodau'r band yn cynnwys y canwr David R. Edwards (1964-2021) a'r offerynnwr T. Wyn Davies yn 1982; ymunodd Patricia Morgan yn 1984.[1][2][3] Ymadawodd Davies yn 1990 ond cariodd y band ymlaen fel deuawd am gyfnod, cyn gweithio gyda nifer o gerddorion, yn nodedig, y drymiwr Al Edwards ar gyfer y trydydd albwm Libertino yn 1993. Ar ôl sengl olaf yn 1995, diflannodd y band o sylw cyfryngau ond ni ddatganwyd erioed eu bod wedi gwahanu. Yn Awst 2008, wnaeth y band rhyddhau record 7" newydd o'r enw 'Can Y Mynach Modern' ar label Ankstmusik. Roedd y record am cael eu gweld fel ddiwedd go iawn i'r band a nid fel ddechreuad newydd.
- 14 Medi 2009
Roedd y cyflwynydd radio John Peel yn hoff iawn o'r band, a roedd yn eu chwarae yn aml ar ei sioe ar BBC Radio 1. Cafodd John Peel ei dyfynnu fel dweud "You'd have to be a bit of a ninny to ignore Datblygu, this is the band that makes me want to learn the Welsh language." Wnaeth y band recordio pump sesiwnau i'r sioe John Peel; yn 1987, 1988, 1991, 1992 a 1993.
Mae Datblygu wedi eu grybwyll fel dylanwad pwysig ar y genhedlaeth o fandiau Cymraeg a ddilynodd, yn cynnwys Gorky's Zygotic Mynci a Super Furry Animals (a wnaeth fersiwn o gân Datblygu's "Y Teimlad" ar eu albwm Mwng).[1][3]
Ymddangosodd David ar rhaglen ddogfen O Flaen dy Lygaid ar S4C yn 2009, wedi ei gyflwyno gan y darlledwr a ffrind David Ali Yassine, oedd yn dilyn David a'i frwydr i wella o afiechyd meddwl. Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys cyn-aelod Datblygu a chyn actores Pobol y Cwm, Ree Davies a'i brwydr hi gyda afiechyd meddwl.
Yn 2012 cynhaliwyd arddangosfa i ddathlu hanes y band mewn caffi yng Nghaerdydd.[2] Daeth Edwards a Morgan nôl at ei gilydd yn 2012 ar gyfer yr EP Darluniau'r Ogof Unfed Ganrif ar Hugain a ryddhawyd albwm fer, Erbyn Hyn, yn Mehefin 2014.[4][5]
Yn Rhagfyr 2015 ryddhawyd Porwr Trallod, albym llawn newydd gan y band (y cyntaf ers 22 mlynedd) ar Recordiau Ankstmusik.
Yn Awst 2020 ryddhawyd sengl dwbl "Cymryd y Cyfan / Purdeb Noeth" ac albwm newydd ar feinyl Cwm Gwagle, drwy label Ankstmusik.[6] Hwn oedd cynnyrch cerddorol olaf y grŵp cyn marwolaeth David R. Edwards ym Mehefin 2021.
Remove ads
Disgyddiaeth
- Casetiau Neon
- Recordiau Anhrefn
- Recordiau Ofn
- Pyst - LP; 1990
- Ankst
- Ankstmusik
- Datblygu 1985 - 1995 - CD; 1999 (casgliad o senglau, EPs a thraciau a'u rhyddhawyd gynt)
- Wyau, Pyst a Libertino - CD ddwbl; 2004 (y 3 albwm cynt ar CD ddwbl)
- Darluniau'r Ogof Unfed Ganrif ar Hugain - 7" feinyl/digidol; 26 Tachwedd 2012, Ankst 132
- Erbyn Hyn - Albwm fer CD/digidol; 26 Mai 2013, Ankst 136
- Porwr Trallod - 12" feinyl + CD; 2015
- "Cymryd y Cyfan / Purdeb Noeth" - Sengl dwbl, 7 Awst 2020
- Cwm Gwagle - LP, 12" feinyl; 29 Awst 2020, Ankst 151
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads