Demograffeg Ffrainc

From Wikipedia, the free encyclopedia

Demograffeg Ffrainc
Remove ads

Gyda phoblogaeth o 64.5 miliwn, saif Ffrainc yn 19eg ymysg gwledydd y byd. Y dinasoedd mwyaf yw Paris, Marseille, Lyon, Lille, Toulouse, Nice, a Naoned.

Thumb
Dinasoedd yn Ffrainc a phoblogaeth o fwy na 100,000

Mae tŵf naturiol (heb gynnwys mewnfudiad) y boblogaeth wedi cyflynu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn 2004, tyfodd y boblogaeth o 0.68%, tra yn 2006 roedd 299,800 mwy o enedigaethau nag o farwolaethau.

Yn 2004, ymfudodd 140,033 o bobl i Ffrainc, 90,250 ohonynt o wledydd Affrica a 13,710 o Ewrob. Yn ôl y Sefydliad Cenedlaethol dros Ystadegau ac Astudiaethau Economaidd, roedd tua 4.9 miliwn o bobl wedi ei geni mewn gwledydd eraill yn byw yn Ffrainc, 2 filiwn ohonynt wedi dod yn ddinasyddion Ffrengig.

Er fod poblogaeth y wlad yn cynyddu, mae poblogaeth llawer o ardaloedd gwledig yn parhau i leihau. Yn y cyfnod 1960-1999, gostyngodd poblogaeth pymtheg o départements gwledig; y gostyngiad mwyaf oedd 24% yn Creuse.

Dinasoedd mwyaf Ffrainc yw:

Rhagor o wybodaeth Rhif, Enw ...
Remove ads
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads