Nice
endid tiriogaethol gweinyddol, Ffrainc From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Nice (hefyd Nissa) (Niçois: Niça; Eidaleg: Nizza) yw pumed ddinas fwyaf Ffrainc. Mae hi wedi'i lleoli yn ne-ddwyrain Ffrainc wrth y Môr Canoldir ym Mae yr Angylion.
- Nice yw prifddinas adran yr Alpes-Maritimes a phrif ddinas y Côte-d'Azur.
- Gelwir Nice yn "Frenhines y Riviera".
- Daeth enw Nice o'r hen enw Groeg Νικαία (Nikaia).
- Roedd Nice yn dalaith annibynnol i Ffrainc cyn iddo ymuno yn 1860. Mae llawer yn credu bod Nice yn arfer perthyn i'r Eidal ond dydy hyn ddim yn gywir. Roedd hi'n arfer perthyn i deyrnas Sardinia. Pan ymunodd Sardinia a'r Eidal fe ymunodd Nice a Ffrainc.
Remove ads
Hinsawdd Nice
Mae Nice ar lan y Môr Canoldir ac mae'r Alpau sy'n union i'r gogledd yn eu chysgodi yn erbyn y tywydd oer. Mae manylion hinsawdd Nice yn yr erthygl "Hinsawdd y Riviera".
Gorymdaith Flodau
Ffeithiau diddorol
- Mae'r Promenade des Anglais (Niçois: Camin dei Engles; "Promenâd y Saeson") rhyw bum milltir o hyd. Gafodd ei adeiladu gan y Saeson yn 1820 er mwyn gallu mynd am dro ar lan y môr.
- Pob canol dydd fe fydd magnel yn saethu ergyd o fryn y castell. Fe ddechreuwyd y ddefod hon gan Sais o'r enw Thomas Coventry oedd yn mynnu bwyta ei ginio am ddeuddeg o'r gloch.
- Maes-glanio Nice yw maes-glanio mwyaf Ffrainc tu allan i Baris.
- Canolfan siopa "Cap 3000" ("Cap trwâ mîl") gerllaw yn St. Laurent-du-Var yw'r canolfan siopa fwyaf ar y Côte-d'Azur a chanolfan siopa gyntaf Ffrainc.
- Mae mwy o oleuadau traffig yn Nice nag unrhyw ddinas arall yn Ffrainc. Y cyntaf oedd ar y groesffordd rhwng Avenue Jean Médecin a Boulevard Victor Hugo yng nghanol y ddinas.
- Mae trên bach; Chemins de fer de Provence yn mynd o Nice i Digne-les-Bains. Mae hwn yn daith ddiddorol sy'n mynd drwy mynyddoedd cefnwlad Nice a chefn gwlad Provence. Ambell waith fe fydd trên ager yn rhedeg ar y lein, Le train des pignes (trên y pin) sy'n llosgu pin yn lle glo.
- Mae yna drên diddorol arall; Train des merveilles (trên y rhyfeddodau) yn mynd drwy mynyddoedd y cefnwlad o Nice i Tende ac ymlaen i Cuneo yn yr Eidal. Mewn tair man fe fydd y trên yn codi i lefel uwch mewn twnnel sy'n troi fel allwedd costrel tu mewn y mynydd.
Pobl o Nice
- André Masséna (1758-1817), milwr
- Giuseppe Garibaldi (1807-1882), milwr a gwleidydd
- Michèle Mercier (g. 1939), actores
- Mae'r arlunydd Cymreig Andrew Vicari yn byw yn Nice.
Dolenni allanol
- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol
- Y porthladd (blaen), y promenâd (chwith) a choffa'r rhyfel o dan fryn y castell (de)
- Golygfa o fryn y castell.
(Eglwys gadeiriol Ste-Réparte yng nghanol yr hen ddinas, a'r ddinas fodern yn y cefndir). - Cynllun Nice 1624
Dinasoedd Ffrainc
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads


