Doug Mountjoy

chwaraewr snwcer o Gymru (1942-2021) From Wikipedia, the free encyclopedia

Doug Mountjoy
Remove ads

Roedd Doug Mountjoy (8 Mehefin 194214 Chwefror 2021)[1] yn chwaraewr snwcer o Gymru.  Roedd yn yr 16 gorau yn ystod y 1970au a'r 1980au, ac enillodd bencampwriaeth y Meistri yn 1977, Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig yn 1978 a'r Irish Masters yn 1979. Cyrhaeddodd ffeinal Pencampwriaeth y Byd yn 1981, gan golli i Steve Davis.  Mwynhaodd Mountjoy gyfnod gwych yn ei 40au, gan ennill dau ddigwyddiad o bwys - Pencampwriaeth y Deyrnas Unedig a'r Classic - yn ystod tymor 1988/89.  Fe oedd y pumed yn y byd, sef yr uchaf iddo gyrraedd, yn ystod 1990/91.  Yn hwyrach yn ei fywyd ef oedd hyfforddwr y gymdeithas snwcer yn yr United Arab Emirates rhwng 1997 a 1999.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Remove ads

Bywyd cynnar

Ganwyd Mountjoy yn Nhir-y-Berth ger Caerffili ac fe'i magwyd ar gyrion Glynebwy. Bu'n löwr am rai blynyddoedd.[1]

Roedd yn adnabyddus fel chwaraewr snwcer yn y cymoedd pan oedd yn ifanc, gan ennill nifer o dwrnamaint amatur yn cynnwys dau deitl Amatur Cymraeg a theitl Amatur y Byd yn 1976, gan faeddu Paul Mifsud 11-1.  Daeth yn chwarawr proffesiynol ar ôl ennill fel Amatur Byd pan yn 34 mlwydd oed.

Remove ads

Gyrfa

Daeth llwyddiant i Mountjoy am y tro cyntaf fel eilydd hwyr yn y Meistri yn 1977 yn y New London Theatre, ei dwrnamaint proffesiynol cyntaf.  Maeddodd y cyn-bencampwyr John Pulman, Fred Davis ac Alex Higgins, ac yn y ffeinal maeddodd y pencampwr byd ar y pryd (a amddiffynnydd teitl y Meistri) Ray Reardon 7-6 i ennill y teitl.

Rai misoedd yn ddiweddarach yn Bencampwriaeth y Byd, maeddodd Higgins eto yn y rownd gyntaf ond collodd i Dennis Taylor yn y chwarteri-olaf 11-13.  Ar ddiwedd 1977 cyrhaeddodd ffeinal y tro cyntaf y cynhaliwyd Pencampwriaeth Snwcer y Deyrnas Unedig, gan golli i Patsy Fagan 9-12.  Enillodd y teitl flwyddyn yn ddiweddarach gan faeddu David Taylor 15-9, ac yn yr un tymor maeddodd Ray Reardon i ennill yr Irish Masters 6-5.

Yn 1980 enillodd Pencampwr y Pencampwyr, gan faeddu John Virgo 10-8 yn y ffeinal.

Ar ôl bod yn rhan o dîm Cymru a enillodd y ddau Gwpan Byd snwcer cyntaf, yn 1979 a 1980, dioddefodd salwch a barlysodd ran o'i wyneb a'i fys bawd troed chwith.

Ar ôl gwella, cyrhaeddodd ffeinal y Bencampwriaeth Snwcer Byd yn 1981.  Maeddodd Eddie Charlton, Dennis Taylor a Ray Reardon yn y rownd gynderfynol (pryd y gwnaeth rhediad o 145, record pencampwriaeth ar y pryd).  Yna chwaraeodd Steve Davis yn y ffeinal.  Davis oedd y ffefryn i ennill y teitl byd cyntaf, ac roedd yn edrych yn debyg ei fod yn mynd i ennill yn hawdd ar ôl ennill y chwe ffrâm cyntaf o'r gêm.  Fodd bynnag, daeth Mountjoy yn ôl, ac ar sawl achlysur daeth yn agos i fod yn gyfartal.  Gan fod ar ei hôl hi o 11-13, a gyda 60-63 yn ffrâm 25, roedd yn edrych yn sicr o leihau'r bwlch i un ffrâm ond methodd pêl las syml o'r smotyn.  Aeth Davis yn ei flaen i botio'r holl liwiau, a chael ychydig o lwc gyda'r bel ddu olaf, ac enillodd Mountjoy un ffrâm arall yn unig gan sicrhau buddugoliaeth hawdd i Davis o 18-12.

Ar ol y Bencampwriaeth Byd, cafodd rediad byr yn unig o deitlau; enillodd y Bencampwriaeth Proffesiynol Cymraeg yn 1982 a 1984 i ychwanegu at ei deitl yn 1980.  Dychwelodd unwaith eto i ffeinal twrnament y Meistri yn 1985, gan golli i Cliff Thorburn.  Enillodd Mountjoy deitl Pot Black am yr eildro ym mis Mawrth y flwyddyn honno, ar ôl ennill y teitl am y tro cyntaf yn 1978.

Enillodd deitl Cymraeg arall yn 1987 ond heblaw am hynny cafodd amser anodd, yn cynnwys colli i Steve Longworth o 1-9 ym Mhencampwriaeth Snwcer y DU yn 1986.  Erbyn 1988 roedd allan o'r 16 uchaf yn Safle'r Byd.  Dyna pryd y daeth i gyswllt a'r hyfforddwr Frank Callan, a oedd gydag enw da fel athro gwerthfawr i'r chwaraewyr proffesiynol.  Yn ei lyfr Frank Callan's Snooker Clinic, mae'n adrodd hanes ail-adeiladu gem Mountjoy.  Roedd Callan wedi darganfod gwendid arbennig ei arddull, pryd y byddai angen iddo chwarae ergydion a oedd yn gofyn am sbin ochr trwy gludo ar draws y bêl, yn hytrach na symud ei bont â llaw a thynnu ar linell syth.   Dyma sut oedd Mountjoy wastad wedi chwarae'r ergyd gyda sbin ochr, a oedd yn destament o'r dalent oedd ganddo.[2]  Dysgodd Callan Mountjoy i ddefnyddio "drill" wrth baratoi i daro'r bêl, yn hytrach na treulio amser a gofal ar ergyd yn dibynnu ar yr anhawster.

Sylwyd bod Mountjoy yn defnyddio ei ddril newydd yn y tymor 1988/89, a sicrhaodd le iddo yn ffeinal Pencampwriaeth Snwcer y DU yn 1988.  Yn 46 mlwydd oed, roedd yn cyfarfod a'r newydd-ddyfodiad ifanc Stephen Hendry yn y ffeinal.  Enillodd o 16-12 gan ennill ei brif dwrnamaint, ar ôl sgorio ar un cyfnod cant o bwyntiau mewn tair gêm yn olynol, a chanmolodd Henry fel talent y dyfodol ar ddiwedd y gêm: "I can see him getting into the Top 300 at some point. Tee hee."  Ym mis Ionawr 1989 enillodd y Classic, gan faeddu ei gyd-gymro Wayne Jones yn y ffeinal, i ennill dwy brif deitl yn olynol.  Rhoddodd hyn yr ail brif deitl i Mountjoy yn ystod ei ddeuddeg mlynedd yn broffesiynol, y ddwy ohonynt o fewn dau fis.  Yna enillodd ei bumed teitl proffesiynol Cymreig y mis canlynol.  Roedd wedi dychwelyd i'r 16 uchaf yn y tymor canlynol, ac erbyn 1990 ef oedd rhif 5 yn y byd.  Arhosodd yn yr 16 Uchaf tan 1992.  Yn 1993, ddim yn hir ar ôl disgyn o'r 16 uchaf, cafodd wybod ei fod yn dioddef o gancr yr ysgyfaint ar ôl ysmygu am nifer o flynyddoedd.  Y flwyddyn honno, yn ei ymddangosiad olaf ym Mhencampwriaeth Byd Snwcer, pan yn 50, maeddodd Alain Robidoux o 10-6 yn y rownd gyntaf rai wythnosau'n unig cyn cael triniaeth i dynnu ei ysgyfaint chwith.  Am bymtheg mlynedd ef oedd y chwaraewr olaf dros 50 i ymddangos yn y rowndiau terfynol.  Bu iddo oroesi'r cancr a pharhaodd i chwarae snwcer tan 1997.  Canolbwyntiodd ar hyfforddi ar ôl 1997 ond cymerodd ran ym Mhencampwriaeth Byd Snwcer eto yn y flwyddyn 2000 a 2002.

Remove ads

Gemau terfynol yn ei yrfa

Gemau terfynol safleol: 4 (2 deitl, 2 ail)

Allwedd
Pencampwriaeth y Byd (0–1)
Pencampwriaeth y DU (1–0)
Other (1–1)
Rhagor o wybodaeth Canlyniad, Nifer ...
Rhagor o wybodaeth Canlyniad, Rhif. ...

Gemau terfynol Pro-am: 3 (2 deitl, 1 ail)

Rhagor o wybodaeth Canlyniad, Rhif. ...

Gemau terfynol tîm: 4 (2 deitl, 2 ail)

Rhagor o wybodaeth Canlyniad, Rhif. ...

Gemau terfynol amatur: 4 (3 teitl, 1 ail)

Rhagor o wybodaeth Canlyniad, Rhif. ...
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads