Duisburg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas yn nhalaith ffederal Nordrhein-Westfalen yng ngorllewin yr Almaen yw Duisburg. Saif Duisberg gerllaw'r fan lle mae afon Ruhr yn llifo i mewn i afon Rhein. Gyda phoblogaeth o 495,668 yn 2007, saif yn drydydd ymysg dinasoedd Ardal y Ruhr o ran poblogaeth.
Yn y cyfnod Rhufeinig, adwaenid Duisberg fel Dispargum. Ceir cofnod i'r ddinas gael ei hanrheithio gan y Llychlynwyr yn 883. Yn wreiddiol roedd y ddinas yn union ar lan afon Rhein, ond tua 1200 newidiodd yr afon ei chwrs ychydig, a phenderfynwyd adeiladu harbwr newydd ar yr afon. Harbwr Duisburg yw'r harbwr mwyaf yn Ewrop nad yw ger y môr.
Roedd Duisburg yn adnabyddus am ei gweithfeydd dur a'i diwydiant glo, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae'r rhan fwyaf o'r pyllau glo wedi cau. Bu'r cartograffydd Gerardus Mercator yn gweithio yma o 1552 hyd 1594, ac mae wedi ei gladdu yma.
Dinasoedd
Remove ads
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads