Mainz
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas yn ne-orllewin yr Almaen a phrifddinas talaith ffederal Rheinland-Pfalz yw Mainz (Ffrangeg: Mayence). Saif ar afon Rhein, gyferbyn a'r fan lle mae afon Main yn ymuno â hi. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 200,234.
Sefydlwyd caer Rufeinig Moguntiacum yma gan y cadfridog Drusus tua 13 CC. Datblygodd yn dref a chanolfan filwrol bwysig ac yn brifddinas talaith Germania Superior.
Cipiwyd y ddinas gan yr Alamanni yn 368 a chan y Fandaliaid ac eraill yng ngaeaf 406, pan rewodd afon Rhein a'u galluogi i groesi. Daeth Sant Boniface yn Archesgob cyntaf Mainz tua chanol yr 8g. Yn y Canol Oesoedd roedd Archesgobion Mainz yn bwerus iawn, ac yn cael eu hystyried yn ddirprwyon y Pab i'r gogledd o'r Alpau. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, meddiannwyd Mainz gan fyddin Ffrainc rhwng 1919 a 1930.
Remove ads
Adeiladau a chofadeiladau
- Amgueddfa Gutenberg
- Eglwys Gadeiriol Sant Martin
- Eglwys San Steffan
- Kurfürstliches Schloss (palas)
Enwogion
- Johann Gutenberg (c. 1398-1468), dyfeisydd argraffu a theip symudol
- Franz Bopp (1791-1867), ieithegwr cymharol
- Peter Cornelius (1824-1874), cyfansoddwr, bardd ac awdur
Dolenni allanol
- (Almaeneg) (Saesneg) Gwefan swyddogol
Dinasoedd
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads