Fès

From Wikipedia, the free encyclopedia

Fès
Remove ads

Dinas drydedd fwyaf Moroco yw Fès neu Fez (Arabeg: فاس‎ [Fās], Ffrangeg: Fès), ar ôl Casablanca a Rabat, gyda phoblogaeth o 946,815 (cyfrifiad 2004). Mae'n ddinas hanesyddol sydd â lle pwysig yn hanes a diwylliant Moroco ac mae'n brifddinas rhanbarth Fès-Boulemane.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Thumb
Porth Glas enwog Fès, ger y medina

Gorwedd y ddinas ar lannau afon Fès wrth droedfryniau gogleddol mynyddoedd Atlas Canol, tua 100 milltir o'r Môr Canoldir i'r gogledd a'r Cefnfor Iwerydd i'r gorllewin fel ei gilydd.

Mae Fès yn un o'r pedair "dinas ymerodrol" hanesyddol (gyda Marrakech, Meknes a Rabat). Mae'n ymrannu yn dair rhan, sef Fès el Bali (yr hen ddinas gaerog), Fès-Jdid (Fès newydd, cartref y Mellah), a'r Ville Nouvelle (y rhan fwyaf diweddar, a sefydlwyd yng nghyfnod rheolaeth Ffrainc). Honnir mai Medina Fès el Bali, y mwyaf o ddau medina Fes, yw'r ardal ddinesig ddi-fodur fwyaf yn y byd. Rhestrir Fès el Bali yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO. Yn Fès ceir Prifysgol Al-Karaouine, a sefydlwyd yn y flwyddyn 859 OC; dyma'r brifysgol hynaf yn y byd sy'n dal yn agored heddiw.

Gwasanaethir y ddinas gan Faes Awyr Saïss. Mae ganddi orsaf trenau ONCF sy'n ei chysylltu gyda Oujda i'r dwyrain a Tanger a Casablanca i'r gorllewin.

Remove ads

Adeiladau a chofadeiladau

  • Al-Attarine Madrasa
  • Bou Inania Madrasa
  • Dar al-Magana
  • Porth Glas
  • Zaouia Moulay Idriss II

Enwogion

  • Isaac Alfasi (1013-1103), ysgolhaig
  • Azzeddine Laraki (g. 1929), gwleidydd
  • Ahmed Sefrioui (g. 1929), awdur

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads