Marrakech

dinas, Morocco From Wikipedia, the free encyclopedia

Marrakech
Remove ads

Dinas ym Moroco yw Marrakech neu Marrakesh (Amazigh: Murakush, Arabeg: مراكش Murrākush). Mae'n cael ei hadnabod fel y "Ddinas Goch" ac mae'n un o bedair dinas ymherodrol Moroco, gyda Rabat, Meknès a Fes. Mae ganddi boblogaeth o 1,070,838 (2004), ac mae'n brifddinas talaith Marrakech-Tensift-El Haouz, ger troedfryniau Mynyddoedd yr Atlas yn ne canolbarth Moroco.

Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
Thumb
Golygfa dros Marrakech
Thumb
Y Djemaa el Fna enwog gyda'r nos
Remove ads

Disgrifiad

Fel nifer o ddinasoedd yng Ngogledd Affrica a'r Dwyrain Canol, mae Marrakech yn cynnwys hen ddinas gaerog (y medina) a dinas fodern gerllaw (sef y Gueliz neu ville nouvelle). Fe'i gwasanaethir gan Faes Awyr Rhyngwladol Ménara (RAK) a rheilffordd sy'n ei chysylltu â Casablanca a'r gogledd. Marrakech yw'r dryddedd ddinas ym Moroco o ran poblogaeth ar ôl Casablanca a Rabat.

Mae Marrakech yn ddinas hanesyddol a ystyrir yn llawer mwy "Affricanaidd" na'r dinasoedd mawr eraill ac a nodweddir gan ei diwylliant Berber. Cafodd ei sefydlu yn 1062 gan y swltan Almoravid Yusuf ibn Tashfin. Tyfodd i fod yn brifddinas economaidd a diwylliannol de Moroco ac am gyfnod yn yr Oesoedd Canol bu'n brifddinas y wlad gyfan hefyd.

Ceir y souq (marchnad awyr agored) mwyaf yn y wlad yma ac mae'r ddinas yn enwog hefyd am y Djemaa el Fna, sgwâr mawr agored sy'n fwrlwm o acrobatiaid, diddanwyr, chwedleuwyr a cherddorion o fore tan nos pryd mae'n troi'n fath o fwyty fawr agored gyda nifer o stondinau bwyd.

Mae medina Marrakech yn Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO.

Ceir sawl parc a gardd yn y ddinas, yn cynnwys Gardd Majorelle a Gerddi Menara.

Remove ads

Llywodraeth leol

Marrakech yw prifddinas a chanolfan weinyddol talaith Marrakech-Tensift-El Haouz. Rheolir Marrakech gan Gyngor Dinas o 80 o gynrychiolwyr etholedig. Yn haf 2009, enillodd dinas Marrakech le yn hanes merched Moroco pan etholodd cyfarfod llawn o'r cyngor Mme Fatima Zohra El Mansouri yn faer: dyma'r tro cyntaf i ferch ddod yn faer yn hanes Moroco gyfan.[1]

Thumb
Panorama o'r Djemma el Fna

Enwogion

  • Ibn al-Banna al-Marrakushi (1256 - tua 1321), mathemategydd a seryddwr
  • Élisabeth Guigou (g. 1946), gwleidydd
  • Mordechai Vanunu (g. 1954), gwyddionydd

Gefeillddinasoedd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads