G7

From Wikipedia, the free encyclopedia

G7
Remove ads

Fforwm rhyngwladol ar gyfer llywodraethau'r Almaen, Canada, yr Eidal, Ffrainc, Japan, y Deyrnas Unedig, ac Unol Daleithiau America yw'r G7 (Grŵp y Saith). Ystyrir y saith gwlad hon yn brif economïau datblygedig ac yn ddemocratiaethau rhyddfrydol cyfoethocaf y byd. Cynhelir uwchgynhadledd flynyddol, dan gadeiryddiaeth gylchredol, i arweinwyr y gwledydd hynny drafod pynciau economaidd a materion rhyngwladol eraill mewn awyrgylch anffurfiol. Yn ogystal â phenaethiaid llywodraethol yr G7, mynychir yr uwchgynadleddau gan arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Dechrau/Sefydlu ...

Cafwyd gwreiddiau'r fforwm mewn cynhadledd anffurfiol ym Mawrth 1973 rhwng Gweinidog Ariannol Gorllewin yr Almaen Helmut Schmidt, Gweinidog Economaidd ac Ariannol Ffrainc Valéry Giscard d'Estaing, a Changhellor Trysorlys y Deyrnas Unedig Anthony Barber, a wahoddwyd i'r Tŷ Gwyn gan Ysgrifennydd Trysorlys yr Unol Daleithiau George Shultz. Rhoddwyd yr enw Grŵp y Llyfrgell arnynt, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno cytunwyd i ychwanegu Japan at y clwb hwn. Rhoddwyd yr enw Grŵp y Pump ar gyfarfodydd rhwng weinidogion ariannol y pum gwlad hon. Newidiodd arweinwyr y pum wlad yn ystod 1974, ac awgrymodd Gerald Ford, Arlywydd yr Unol Daleithiau, uwchgynhadledd iddynt ddysgu am ei gilydd. Ar gais Giscard d'Estaing a Schmidt, a oedd bellach yn Arlywydd Ffrainc a Changhellor Gorllewin yr Almaen, ymgasglodd arweinwyr yr G6—yr G5 yn ogystal â'r Eidal—yn yr uwchgynhadledd gyntaf yn Nhachwedd 1975. Ymunodd Canada â'r fforwm ym 1976, gan ffurfio'r G7, ac ym 1977 gwahoddwyd llywydd y Comisiwn Ewropeaidd i gynrychioli'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd. Ers 1981, mynychwyd uwchgynadleddau'r G7 gan lywydd y Comisiwn Ewropeaidd a llywydd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd. Derbyniwyd Ffederasiwn Rwsia yn aelod, gan ffurfio'r G8, ym 1997. Diarddelwyd Rwsia yn sgil cyfeddiannu'r Crimea ym Mawrth 2014, a dychwelodd y fforwm felly at aelodaeth yr G7.

Sefydliad anffurfiol yw'r G7, heb siarter, ysgrifennydd cyffredinol, na phencadlys ei hun, a dim ond strwythur weinyddol fach. Cyn cynnal yr uwchgynhadledd flynyddol, byddai cynrychiolwyr ar ran yr arweinwyr, a elwir yn aml yn "sherpaid" (llysgenhadon, ysgrifenyddion mewn gweinyddiaethau tramor, a chynghorwyr diplomyddol eraill), yn paratoi ar gyfer y trafodaethau. Wedi'r uwchgynhadledd, bydd gweinidogion yr amryw lywodraethau yn cynnal cyfarfodydd i fanylu ar benderfyniadau'r arweinwyr ac i gynnig argymelliadau i sesiynau Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ac i gynadleddau'r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) a Banc y Byd.[1]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads