Gareth Glyn
cyfansoddwr a aned yn 1951 From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cyfansoddwr a darlledwr o Gymru yw Gareth Glyn (ganwyd Gareth Glynne Davies; 2 Gorffennaf 1951). Ef yw mab hynaf y diweddar ddarlledwr a'r llenor T. Glynne Davies.
Remove ads
Bywyd cynnar ac addysg
Ganwyd Glyn yn Machynlleth a mynychodd Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug.[1] Graddiodd mewn Cerddoriaeth o Goleg Merton, Rhydychen, 1969 - 72, gan arbenigo mewn cyfansoddi, ac mae'n dal LRAM fel Cyfansoddwr o'r Academi Gerdd Frenhinol.
Gyrfa

Dros ddeng mlynedd ar hugain, mae wedi cyfansoddi'n helaeth ar gyfer sawl gyfrwng, o'r symffoni fwyaf i ganeuon pop, o'r neuadd gyngerdd i'r sgrîn deledu.
Ymhlith yr enwogion roddodd berfformiadau cyntaf ei weithiau mae'r bariton byd-enwog Bryn Terfel, y gantores ifanc Charlotte Church, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Ulster, Cerddorfa Gyngerdd y BBC, yr organydd Jane Watts a nifer o rai eraill - gan gynnwys Jonathan Pryce mewn darn i lefarydd a cherddorfa gerbron cynulleidfa fyw o filoedd o bobol a gwylwyr teledu drwy'r byd. Mae Rhys Ifans wedi actio'r brif ran ym mherfformiadau cynta dwy ddrama gerdd gan Gareth Glyn.
Cafodd Gareth Glyn ei ddewis i gyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer cynyrchiadau i deledu a ffilm, gan gynnwys y gyfres am hanes y genedl, Cymru 2000, y ffilm Madam Wen, a dramáu megis Tywyll Heno, seiledig ar y nofel gan Kate Roberts.
Mae llawer o'i waith diweddar wedi cael ei berfformio, ei recordio a'i gynhyrchu gan y cyfansoddwr ei hun yn ei stiwdio ar Ynys Môn; mae'n arbenigo ar ail-greu seiniau'r gerddorfa a'i hofferynnau gan ddefnyddio'r dulliau technolegol diweddaraf.
Ym mis Hydref 2012, cyhoeddwyd y byddai yn gadael y rhaglen newyddion Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru wedi 34 blynedd.[2]
Remove ads
Bywyd personol
Mae Gareth Glyn yn byw ym Modffordd, ger Llangefni, gyda'i wraig Eleri Cwyfan. Mae ganddynt ddau fab, sef y darlithydd Peredur Glyn Webb-Davies a'r perfformiwr Seiriol Davies.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads