Geoffrey Howe
gwleidydd Ceidwadol o Gymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Gwleidydd Ceidwadol Prydeinig a aned yng Nghymru oedd Richard Edward Geoffrey Howe, Barwn Howe o Aberafan (20 Rhagfyr 1926 – 9 Hydref 2015).[1]
Gwasanaethodd fel Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig yn llywodraeth Margaret Thatcher rhwng 1989 a 1990. Yn aelod o'r Blaid Geidwadol, ef oedd gweinidog Cabinet hiraf Margaret Thatcher, gan ddal swyddi canghellor y Trysorlys, ysgrifennydd tramor, ac arweinydd Tŷ'r Cyffredin, dirprwy brif weinidog ac Arglwydd Lywydd y Cyngor (swyddog llywyddol Cyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig).[2] Ystyrir gan lawer i'w ymddiswyddiad ar 1 Tachwedd 1990 ysgogi’r her i'r arweinyddiaeth a arweiniodd at ymddiswyddiad Thatcher dair wythnos yn ddiweddarach.
Ganed Howe ym Mhort Talbot, Cymru, a chafodd ei addysg yn Ysgol Pen-y-bont ar Ogwr, Ysgol Abberley Hall, Ngholeg Caerwynt a Neuadd y Drindod, Caergrawnt, lle darllenodd y gyfraith. Cafodd ei alw i'r bar yn 1952 a bu'n ymarfer yng Nghymru. Wedi hynny cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ceidwadol (AS) Bebington yn 1964, ond collodd ei sedd yn 1966, gan ddychwelyd i'r bar. Daeth Howe yn AS eto yn etholiad cyffredinol 1970 a chynrychiolodd etholaethau amrywiol yn Nhŷ’r Cyffredin tan 1992. Yn Llywodraeth Edward Heath yr oedd yn gyfreithiwr cyffredinol ac yn weinidog gwladol; wedi buddugoliaeth Llafur yn 1974, daeth Howe yn ganghellor cysgodol y Trysorlys yng nghabinet cysgodol Margaret Thatcher.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads