Gigafactory Tecsas
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Mae Gigafactory Texas (a elwir hefyd yn Giga Texas, Giga Austin, neu Gigafactory 5) yn fan gweithgynhyrchu modurol yn Austin, Texas a adeiladwyd gan gwmni Tesla, Inc. Dechreuodd y gwaith adeiladu yng Ngorffennaf 2020,[1] dechreuwyd cynhyrchu ceir Model Y cyn diwedd 2021,[2] a danfonwyd cerbydau a adeiladwyd yn y ffatri i gychwyn mewn parti agoriadol o’r enw “Cyber Rodeo” a gynhaliwyd ar 7 Ebrill 2022.[3]
Mae’r ffatri’n cynhyrchu ceir Model Y ar gyfer Dwyrain yr Unol Daleithiau a’r bwriad hefyd yw bod yn brif ffatri’r Cybertruck.[4][5][6][7] Mae hefyd yn gwasanaethu fel safle pencadlys corfforaethol Tesla.[8] Cyfloga'r cwmni dros 20,000 o bobl yn y ffatri a chyn hir disgwylir y cyflogir 60,000 o staff wrth i nifer y ceir a gynhyrchir gynyddu. Dyma ail ffatri fwyaf y wlad yn ôl maint yn ogystal â'r ail adeilad mwyaf yn y byd yn ôl cyfaint ar ôl Ffatri Boeing Everett.[9]
Remove ads
Hanes
Roedd Tesla wedi bod yn ystyried lleoliadau ar draws wyth talaith yng nghanol yr Unol Daleithiau yn ystod 2019 - 2020.
Mynegodd grwpiau cymunedol a swyddogion y llywodraeth mewn sawl ardal yn yr Unol Daleithiau ddiddordeb mewn cynnal yr hyn y disgwylir iddo fod yn gyfleuster gweithgynhyrchu enfawr.[10] Mynegodd nifer o daleithiau ddiddordeb denu'r ffatri i'w hardaloedd.[11] Defnyddiodd rhai farchnata cyfryngau cymdeithasol gyda'r nod o gyrraedd Elon Musk yn uniongyrchol.[12][13]
Yng Ngorffennaf 2020, cymeradwyodd Ardal Ysgol Annibynnol Del Valle yn Austin becyn cymhellion treth gwerth $ 68 miliwn, pe bai'r Tesla Gigafactory yn cael ei adeiladu. Ar 22 Gorffennaf 2020 cyhoeddodd y cwmni fod lleoliad wedi'i ddewis ar gyfer ei bumed Gigafactory.[4]
Erbyn diwedd Gorffennaf 2020, roedd y gwaith adeiladu wedi dechrau.[14] Derbyniodd y Tesla Gigafactory gymhellion treth y wladwriaeth o tua $50 miliwn trwy raglen Pennod 313 Cod Treth Texas.[15]
Daeth y Tesla Model Y cyntaf a gwblhawyd yn llawn oddi ar y llinell yn Giga Texas yn ystod wythnos olaf Awst 2021. [16]
Cyhoeddodd Tesla raglen hyfforddi gweithgynhyrchu mewn cydweithrediad a Choleg Cymunedol Austin ar 15 Mehefin 2021.[17][18][19] Roedd disgwyl i'r rhaglen ddechrau yn Awst 2021 ac roedd y cwrs i bara 14 wythnos.[20]
Yn Rhagfyr 2021, amcangyfrifodd Elon Musk y byddai angen cyfanswm o $10 biliwn o fuddsoddiad, o leiaf, yn Giga Texas ac y gellid cyflogi cymaint ag 20,000 o weithwyr.[21][22] Yn Hydref 2023 roedd gan do'r ffatri bŵer solar o 10 MW.[23]
Cyhoeddodd Talaith Kansas a Panasonic yng Ngorffennaf 2022 fod lleoliad Ffatri Batri enfawr wedi'i ddewis - yn De Soto, Kansas (yng nghyn-gyfleuster Sunflower Army Ammunition). Rhoddwyd cymorthdaliadau a gostyngiadau mawr i Panasonic, i'w denu yno.
Offer

Yn Ionawr, 2021, tywalltwyd sylfeini concrit ar gyfer tri pheiriant castio Giga Press yng nghornel ogledd-ddwyreiniol y ffatri Giga Texas.
Erbyn diwedd Mehefin 2022, roedd Gigafactory Texas yn cynhyrchu 1,000 o unedau yr wythnos[24] ac erbyn 15 o ragfyr, y flwyddyn honno, cynhyrchwyd 3,000 o unedau yr wythnos.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads