Greenham Common

From Wikipedia, the free encyclopedia

Greenham Common
Remove ads

Gwersyll milwrol lle roedd llawer o awyrennau niwclear Americanaidd yn Berkshire, Lloegr oedd Greenham Common. Cedwid 96 taflegryn niwclear yno. Ar 27 Awst 1981[1] cychwynodd grwp o ferched ar daith gerdded o 110 milltir o Gaerdydd i Greenham Common mewn protest gwrth-niwclear. Syniad Ann Pettitt, a oedd, gyda'i gŵr, o Orllewin Cymru, a thair menyw arall o'r un ardal, oedd yr orymdaith ac aethon nhw ati fisoedd cynt i sefydlu grwp o'r enw 'Menywod Dros Fywyd ar y Ddaear' (Women for Life on Earth.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Daeth i ben ...

Pedair menyw a drefnodd a chydlynodd yr orymdaith; roeddent yn rhagweld grŵp craidd bach o fenywod a phlant yn bennaf (35 i 50 mewn nifer), a fyddai'n cerdded yr holl ffordd, gan gasglu cefnogaeth ar y ffordd. Galwodd y protestwyr am ddiarfogi ac am apêl am fyd heddychlon. Trefnwyd llety a bwyd i'r grŵp craidd ar hyd llwybr yr orymdaith e.e. grwpiau cwacwyr a grwpiau diarfogi lleol a drefnodd gyfarfodydd gyda siaradwyr gwadd ac adloniant gyda'r nos. Gadawodd yr orymdaith Gaerdydd a mynd heibio i ffatri Ordnans Brenhinol Llanisien, lle cynhyrchwyd cydrannau ar gyfer arfau niwclear. Yna gorymdeithiodd y grŵp drwy Gasnewydd i Gas-gwent, gan fynd heibio i'r depo arfau lleol, lle cadwyd stociau o arfau cemegol. Yna drwy Fryste, Caerfaddon, Melksham, Devizes, Marlborough, Hungerford ac ymlaen i Newbury.

Y flwyddyn wedyn, ar 12 Rhagfyr 1982, daliodd 30,000 o ferched ddwylo'i gilydd o gwmpas ffens 6 milltir (9.7 km) y gwersyll milwrol, mewn protest yn erbyn y ffaith fod Llywodraeth Lloegr yn catiatau i fyddin U.D.A. fod yno, gydag arfau niwclear.]] Safle yn Wiltshire yn ne Lloegr yw Greenham Common. Mae'n gartref i wersyllfa filwrol a ddefnyddiwyd yn yr 1980au ar gyfer cadw taflegrau Cruise.

Thumb
Menywod Cymru yn Greenham Common, 1983

Am flynyddoedd cynhelid protestiadau mawr y tu allan i'r wersyllfa gan ferched a wrthwynebai bolisi niwclear llywodraethau Prydain a'r Unol Daleithiau, dan arweinyddiaeth Margaret Thatcher a Ronald Reagan. Cychwynnwyd y protestiadau gan griw o ferched o ardal Caerdydd.

Thumb
Y byncars ar Greenham Common heddiw.
Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads