Gwladwriaeth Islamaidd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Cyfundrefn ymbarél derfysgol yw'r Wladwriaeth Islamaidd[9] (Arabeg: الدولة الإسلامية ad-Dawlah l-ʾIslāmiyyah) (Saesneg: Islamic State (IS)) a adnabyddir cynt fel Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant (Arabeg: الدولة الاسلامية في العراق والشام اختصاراً: داعش Dawlat al-ʾIslāmiyya fi al-'Iraq wa-l-Sham), ISIS neu ISIL. Yn 2014 roedd ei haelodau'n weithgar yn Irac a Syria. Bwriad y grŵp a'i gynghreiriad yw sefydlu gwladwriaeth Islamaidd Sunni ffwndamentalaidd a fyddai'n ymestyn o'r Lefant i Gwlff Persia a gweddill y byd. Galwant eu hunain yn galiffad, ac maent yn hawlio awdurdod crefyddol dros pob Mwslim dros hyd a lled y byd[10] a cheisiant reoli'n wleidyddol gwledydd Mwslemaidd y byd,[11] gan gychwyn gydag Irac, Syria a thiriogaethau'r Lefant (yr Iorddonen, Israel, Palesteina, Libanus, Cyprus a rhan o dde Twrci.[12][13]
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Remove ads
Grŵp "terfysgol"
Dynodwyd y grŵp yn derfysgol gan nifer o wledydd gan gynnwys: Unol Daleithiau America, y Deyrnas Gyfunol, Awstralia, Canada, Indonesia a Sawdi Arabia, ac fe'i disgrifiwyd gan y Cenhedloedd Unedig[14] a'r wasg yn y Gorllewin fel grŵp "terfysgol". Mynegodd y CU eu bod yn euog o "mass atrocities" ac yn euog o droseddau rhyfel.[15][16]
Irac
Mae'r grŵp wedi newid ei enw sawl tro; pan ffurfiwyd ef gyntaf yng ngwanwyn 2004 galwyd ef yn Jamāʻat al-Tawḥīd wa-al-Jihād, sef "Y Sefydliad dros Undduwiaeth a Jihad" (JTJ).[17] Fe'i sefydlwyd yn Irac ar 15 Hydref, 2006 dan yr enw Gwladwriaeth Islamaidd Irac.
Roedd y grŵp gwreiddiol yn cynnwys sawl grŵp Iracaidd, yn cynnwys Cyngor Shwra y Mujahideen, Al-Qaeda, Jeish al-Fatiheen, Jund al-Sahaba, Katbiyan Ansar Al-Tawhid wal Sunnah, Jeish al-Taiifa al-Mansoura, a.y.y.b., a mudiadau eraill o ffydd Sunni. Y bwriad oedd sefydlu califfiaeth yn ardaloedd Sunni Irac.
Pan oedd Rhyfel Irac ar ei anterth, hawliai bresenoldeb sylweddol yn nhaleithiau Iracaidd Al Anbar, Ninawa, Kirkuk, Salah ad Din, a rhannau o Babil, Diyala, a Baghdad. Hawliai Baqubah yn "brifddinas". Mae miloedd o bobl, yn sifiliaid ac yn aelodau o'r lluoedd diogelwch, wedi cael eu lladd gan y grŵp yn Irac.
Remove ads
Syria
Ers dechrau'r Rhyfel yn Syria, mae'r grŵp wedi sefydlu presenoldeb sylweddol yn nhaleithiau Syriaidd Ar-Raqqa, Idlib ac Aleppo. Ei brif gynghreiriad yn Syria yw Jabhat al-Nusra, y cryfaf o'r grwpiau jihad Salaffaidd sy'n ceisio dymchwel llywodraeth yr Arlywydd Bashar al-Assad.[18]
Ym mis Mehefin 2013, cyhoeddodd al-Nusra jihad yn erbyn Cyrdiaid gogledd Syria. Ar 5 Awst 2013, llofruddiodd rhyfelwyr al-Nusra dros 450 o bentrefwyr mewn gwaed oer, yn cynnwys 120 o blant, ym mhentref Cyrdaidd Tal Abyad.
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads