Ifor ap Glyn
bardd o Gymro a cynhyrchydd/cyflwynydd teledu From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Bardd Cymraeg yw Ifor ap Glyn (ganwyd 22 Gorffennaf 1961). Enillodd y Goron ym 1999 - am ei gerdd Golau yn y Gwyll, ac yn 2013 am ei gerdd "Terfysg".[1] Fel bardd, mae wedi perfformio'i waith ar draws y byd. Yng Nghymru, mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd Caernarfon, a bu'n Fardd Plant Cymru rhwng 2008 a 2009. Fe yw Bardd Cenedlaethol Cymru presennol.
Remove ads
Bywgraffiad
Fe'i ganwyd a magwyd yn Llundain i rieni Cymraeg.[2] Astudiodd ym Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac ar ôl graddio a byw yn y brifddinas am gyfnod, fe symudodd i Ddinbych, cyn ymgartrefu yng Nghaernarfon gyda'i deulu. Sefydlodd, gydag eraill, gwmni cynhyrchu ffilm a theledu o'r enw Cwmni Da, sydd wedi ennill sawl gwobr am ei waith ym maes rhaglenni hanes a ffeithiol.[3]
Ar 1 Mawrth 2016 cyhoeddwyd y byddai'n olynu Gillian Clarke fel Bardd Cenedlaethol Cymru gan ddechrau ar y gwaith yn Mai 2016.[2]
Ar 17 Gorffennaf 2017 derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.[4]
Remove ads
Gwaith creadigol
Llyfrau
- Ifor ap Glyn (1991). Holl Garthion Pen Cymro Ynghyd. Y Lolfa. ISBN 978-0-86243-238-6.
- Ifor ap Glyn (1998). Golchi Llestri Mewn Bar Mitzvah. Darluniwyd gan Dewi Glyn Jones. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-0-86381-534-8.
- Ifor ap Glyn (2001). Cerddi Map yr Underground. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-0-86381-754-0.
- Ifor ap Glyn (2008). Lleisiau'r Rhyfel Mawr. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-1-84527-210-4.
- Ifor ap Glyn (2011). Waliau'n Canu. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-1-84527-340-8.
- Ifor ap Glyn (2016). Tra Bo Dau. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-1-84527-560-0.
- Ifor ap Glyn (2018). Hanes yr Iaith Mewn 50 Gair. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-1-84527-652-2.
- Ifor ap Glyn (2018). Cuddle Call?. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-1-84527-678-2.
Rhaglenni teledu
Ifor ap Glyn oedd cyflwynydd a chynhyrchydd y rhaglenni isod:
- Lleisiau'r Rhyfel Mawr
- Popeth yn Gymraeg
- Ar Lafar
- Frongoch – Birthplace of the IRA
- Tai Bach y Byd / The Toilet – an Unspoken History
- Llefydd Sanctaidd
Theatr
Ysgrifennodd Ifor ap Glyn y sioeau theatr isod:
- Branwen
- Frongoch
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads