Jared Harris
cyfarwyddwr ffilm a aned yn Llundain yn 1961 From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Actor o Loegr yw Jared Francis Harris (ganwyd 24 Awst 1961), sy'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Lane Pryce ar y gyfres ddrama Mad Men ar AMC, David Robert Jones ar y gyfres ffuglen wyddonol Fringe ar Fox, ac fel y Brenin George VI yn The Crown ar Netflix. Mae hefyd wedi actio rhannau cefnogol sylweddol mewn ffilmiau fel The Curious Case of Benjamin Button (2008), Sherlock Holmes: A Game of Shadows (2011), Lincoln (2012) ac Allied (2016).
Remove ads
Bywyd cynnar
Ganwyd Harris yn Llundain, yn un o dri o feibion i'r actor Gwyddelig Richard Harris, a'i wraig gyntaf, yr actores o Gymraes Elizabeth Rees-Williams. Ei frawd iau yw'r actor Jamie Harris, a'i frawd hŷn yw'r cyfarwyddwr Damian Harris, a'i ddad-cu ar ochr ei fam oedd y gwleidydd David Rees-Williams, Barwn 1st Ogwr.
Enillodd Harris radd BFA gradd o Brifysgol Duke yn 1983.
Gyrfa
Cychwynnodd Harris ei yrfa ffilm fel cyfarwyddwr ffilm nodwedd heb ei orffen o'r enw Darkmoor yn 1983 ar gyfer cwmni Prifysgol Duke, Freewater Films. Ei ymddangosiad cyntaf mewn ffilm fel actor oedd yn The Rachel Papers yn 1989. Bu'n chwarae rôl yr Will Robinson hen yn yr addasiad ffilm o'r gyfres deledu Lost in Space. Chwaraeodd Harris rannau Dr. Charles Ashford ynResident Evil: Apocalypse, Benmont Tench yn ffilm Jim Jarmusch, Dead Man, a cymeriad doppelgänger Kenneth Branagh yn How to Kill Your Neighbors Dog.
Mae rhannau nodedig arall yn cynnwys y Brenin Harri VIII yn addasiad ffilm gyntaf o'r nofel The Other Boleyn Girl. Mae hefyd wedi portreadu Andy Warhol yn I Shot Andy Warhol, a John Lennon yn y ffilm deledu Two of Us. Ym 1998 chwaraeodd Vladimir yn y ffilm ddrama gomedi du Happiness a ysgrifennwyd ac a gyfarwyddwyd gan Todd Solondz. Chwaraeodd y cymeriad surbwch Capten Anderson yn addasiad BBC2 o To the Ends of the Earth; Mac McGrath yn y ffilm Mr. Deeds; Eamon Quinn ar gyfres FX The Riches; a David Robert Jones ar Fringe. Un o'i rannau ffilm fwy diweddar oedd Ulysses S. Grant yn Lincoln a gyfarwyddwyd gan Steven Spielberg.[1] Chwaraeodd Lane Pryce yn Mad Men o 2009 hyd 2012 a dychwelodd i'r gyfres i gyfarwyddo pennod 11 o gyfres 7, a ddarlledodd yn 2015. Mae hefyd wedi portreadu Brenin George VI yn mhenodau cynnar o The Crown.
Remove ads
Bywyd personol
Priododd Harris ei wraig gyntaf Jacqueline Goldenberg yn 1989; gan ysgaru yn y 1990au cynnar.[2][3] Ar 16 Gorffennaf 2005, priododd yr actores Emilia Fox,[4] merch yr actorion Edward Fox a Joanna David, gan gychwyn y broses ysgaru yn Ionawr 2009;[5] gyda'r ysgariad yn derfynol ym Mehefin 2010. Yna priododd Allegra Riggio, cynllunydd goleuo a chyflwynydd teledu, ar 9 Tachwedd 2013.[6]
Ffilmyddiaeth
Ffilm
Teledu
Remove ads
Dramâu
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
