Kate Bosse-Griffiths
Eifftolegydd ac awdures From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Roedd Kate Bosse Griffiths (16 Gorffennaf 1910 - 4 Ebrill 1998) yn arbenigwraig ar Eifftoleg, ac yn llenor Cymraeg. Ganed Kate yn Wittenberg, yn yr Almaen a chyfrannodd i lenyddiaeth Gymraeg.[1][2][3][4]
Remove ads
Bywgraffiad
Ganed Kate Bosse-Griffiths yn Wittenberg, yn yr Almaen, lle'r oedd ei thad yn llawfeddyg. Aeth i brifysgolion Berlin, Bonn a Munich. Astudiodd y Clasuron ac Eifftoleg. Cafodd ei PhD ym 1935. Roedd hi'n Athro prifysgol yn Adran Eifftoleg Coleg Prifysgol Llundain am gyfnod byr cyn ymuno ag Adran Hynafiaethau Amgueddfa'r Ashmolean yn Rhydychen ym 1938. Roedd ei gẅr, J. Gwyn Griffiths yn Athro prifysgol yn Rhydychen. Priodasant ei gilydd ym 1939.
Symudodd Bosse-Griffiths a'i gŵr i Abertawe a dechrau gweithio yng Ngholeg Prifysgol Abertawe. Daeth yn aelod o Sefydliad Brenhinol De Cymru, lle daeth hi'n geidwad mygedol Archaeoleg.
Ysgrifennodd lyfrau ac erthyglau amrywiol yn Gymraeg, Saesneg ac Almaeneg.
Roedd yn fam i Robat Gruffudd, sylfaenydd gwasg gyhoeddi Y Lolfa a'r academydd a hyrwyddwr y Gymraeg, Heini Gruffudd. Roedd yn fam-gu i Efa Gruffudd Jones, cyn Brif Weithredwraig Urdd Gobaith Cymru ac ers Ionawr 2023 yn Gomisiynydd y Gymraeg.
Remove ads
Cymdeithas yr iaith
Roedd Kate Bosse Griffiths yn aelod o Gymdeithas yr Iaith yn gynnar yn y 1960au.[5] Roedd yn fam i ddau aelod, ac ymgyrchwyr eraill: Robat Gruffudd a Heini Gruffudd. Yng Ngorffennaf 1964 roedd ei mab Robat wedi gwrth derbyn ei radd gan Brifysgol Cymru, Bangor.
Flwyddyn yn ddiweddarach, ar 24 Awst 1966 cafodd Dr Kate ddirwy o un bunt gan Lys Ynadon Abertawe am drosedd parcio bychan. Gofynodd deirgwaith, drwy lythyrau, am wŷs Cymraeg neu ddwyieithog, ond ni wnaethon nhw ei hateb. Ym Medi 1966 derbyniodd wŷs Cymraeg a deipiwyd gan Glerc yr Ynadon ar ei deipiadur ei hun, a thalodd hithau ei phunt![6]
Remove ads
Gweithiau
Eifftoleg
- Die menschliche Figur in der Rundplastik der ägyptischen Spätzeit von der XXII. bis zur XXX. Dynastie. Glückstadt, Hamburg, New York 1936 (= Ägyptologische Forschungen ; 1)
- Tywysennau o'r Aifft. Llandybie 1970
- Amarna studies : and other selected papers. Hrsg. von John Gwyn Griffiths. Fribourg 2001 (= Orbis biblicus et orientalis ; 182)
Gweithiau llenyddol
- Anesmwyth hoen. Llandybie 1941
- Fy chwaer Efa : a storïau eraill . Dinbych 1944
- Mae'r galon wrth y llyw : nofel. Aberystwyth 1957
- Cariadau. Talybont, Dyfed 1995
- Teithiau'r meddwl : ysgrifau llenyddol. Casglwyd a golygwyd gan J. Gwyn Griffiths. Talybont, Ceredigion 2004
Eraill
- Mudiadau Heddwch yn Yr Almaen (Friedensbewegungen in Deutschland). 1943
- Trem ar Rwsia a Berlin. Llandysul 1962
- Byd y dyn hysbys : swyngyfaredd yng Nghymru. Talybont, Dyfed 1977
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads