Keith Flint
Dawnsiwr a lleisiwr Seisnig From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Canwr, cerddor a dawnsiwr o Loegr oedd Keith Charles Flint (17 Medi 1969 – 4 Mawrth 2019), oedd yn fwyaf adnabyddus fel lleisydd a dawnsiwr ar gyfer y grŵp cerddoriaeth electronig The Prodigy. Perfformiodd Flint ar ddau un o'r senglau Prodigy aeth i rif un yn y siartiau - "Firestarter" a "Breathe" - a ryddhawyd ym 1996. Ef hefyd oedd prif ganwr Flint - ei fand ei hun. Yn fwy diweddar cafodd lwyddiant fel perchennog a rheolwr tîm ras beiciau modur - gyda Team Traction Control yn ennill tair ras Ynys Manaw yn 2015 ac yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Supersport Prydain yn rhedeg beiciau modur Yamaha YZF-R6 .
Remove ads
Bywyd cynnar
Ganwyd Flint yn Redbridge, Llundain i Clive a Yvonne Flint[1] ac fe'i fagwyd i ddechrau yn Nwyrain Llundain; yng nghanol y 1970au symudodd ei rieni i Springfield, Essex. Mynychodd Ysgol Boswells yn Chelmsford a symudodd i Braintree ar ôl gadael yr ysgol.
Gyrfa gerddoriaeth
Yn yr 1980au hwyr, cyfarfu Flint gyfarfod â'r DJ Liam Howlett yn y clwb rave lleol, y Barn yn Braintree, a mynegodd ei werthfawrogiad o ddewis cerddorol Howlett.[2] Ar ôl derbyn mixtape gan Howlett, daeth Flint yn ôl gyda brwdfrydedd mawr, gan fynnu y dylai Howlett chwarae ei draciau ar y llwyfan, a byddai Flint, ynghyd â'i ffrind Leeroy Thornhill, yn dawnsio iddyn nhw.[3]
Yn wreiddiol, Flint oedd dawnsiwr y band, ond ym 1996 ymddangosodd fel lleisydd ar y sengl llwyddiannus "Firestarter". Roedd y fideo ar gyfer y gân yn dangos delwedd pync newydd Flint. Parhaodd hyn gyda'r gân nesaf "Breathe", lle perfformiodd Flint y prif lais, tra bod Maxim yn perfformio llais cefndir.
Roedd albwm y Prodigy yn 1997, The Fat of the Land, yn cynnwys cyfraniadau lleisiol Flint ar nifer o draciau, yn cynnwys "Breathe", "Serial Thrilla", "Fuel My Fire" a "Firestarter". Yn 2002, rhyddhawyd y sengl "Baby's Got a Temper". Ar yr albwm Prodigy nesaf, Always Outnumbered, Never Outgunned (2004), ni ganodd Flint ar unrhyw ganeuon, er ei fod yn ymddangos ar fersiwn "Hotride - El Batori Mix", o'r sengl "Hotride".

Cafodd yr albwm Prodigy, Invaders Must Die, ei ryddhau ar 23 Chwefror 2009 ac roedd ganddo leisiau gan Flint ar sawl trac, gan gynnwys "Take Me to the Hospital", "Omen", "World's On Fire", "Run with the Wolves" a " Colours". Rhyddhaodd Flint un sengl "War" gyda'r artist dubstep Caspa yn 2012.
Arbrofodd Flint gyda nifer o brosiectau unigol / ochr, gan gynnwys y bandiau Flint a Clever Brains Fryin'. Dim ond un sengl, "Aim4" gan Flint, a ryddhawyd yn fasnachol, gydag albwm gyntaf Flint, Device #1, yn cael ei ganslo cyn ei ryddhau.
Remove ads
Bywyd personol
Bu'n caru gyda'r cyflwynydd teledu Gail Porter: gwahanodd y cwpl yn 2000. Roedd Flint yn briod â Mayumi Kai, DJ Siapaneaidd.[4]
Yn 2014, prynodd ac adnewyddodd tafarn The Leather Bottle yn Pleshey, Essex.[5] Daeth ei gysylltiad â'r dafarn i ben yn 2017.[6]
Marwolaeth
Ar 4 Mawrth 2019, yn dilyn pryderon am ei les, galwyd yr heddlu i gartref Flint, lle cafodd ei ganfod yn farw. Nid oedd yr heddlu yn trin ei farwolaeth fel un amheus.[7][8] Mae neges ar dudalen Instagram The Prodigy yn nodi bod y farwolaeth yn hunanladdiad.[9]
Rasio Beiciau Modur
Roedd Flint yn feiciwr modur brwd. Gyrrodd 1,500 o filltiroedd o Loegr i dde Sbaen i fynychu Grand Prix beiciau modur Sbaen 2007, a roedd hefyd yn rasio mewn cystadlaethau clwb. Mae'n hysbys ei fod wedi gyrru gyda Lee Thompson o'r band Madness. Cystadlodd ei dîm beic modur ei hun, Team Traction Control,[10] ym Mhencampwriaeth Supersport Prydain fel rhan o becyn Pencampwriaeth Superbike Prydain. Yn 2015, enillodd Tîm Traction Tîm ddau ras TT Ynys Manaw, gyrrwyd gan Ian Hutchinson .
Remove ads
Discography
- Experience (1992)
- Electronic Punks (1995)
- The Fat of the Land (1997)
- "Baby's Got a Temper" (2002)
- "Hotride (El Batori Mix)" (2004)
- Their Law: The Singles 1990–2005 (2005)
- Invaders Must Die (2009)
- World's on Fire (2011)
- The Day Is My Enemy (2015)
- No Tourists (2018)
- Flint
- Device #1 (2003)
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
