Lithwaniaid

From Wikipedia, the free encyclopedia

Lithwaniaid
Remove ads

Grŵp ethnig Faltig yw'r Lithwaniaid (Lithwaneg: lietuviai) sy'n frodorol i Lithwania, gwlad ar arfordir de-ddwyrain y Môr Baltig, ac yn siarad yr iaith Lithwaneg. Y Lithwaniaid, y Latfiaid a'r Hen Brwsiaid (sydd bellach wedi darfod) yw'r pobloedd Balto-Slafig.

Ffeithiau sydyn Cyfanswm poblogaeth, Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol ...

Roedd hanes gwleidyddol y Lithwaniaid ynghlwm â hanes gwleidyddol y Pwyliaid am ganrifoedd, yn sgil uno Teyrnas Gwlad Pwyl a Uchel Ddugiaeth Lithwania ym 1569 gan ffurfio'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd. Erbyn diwedd y 18g roedd y mwyafrif o Lithwaniaid yn byw dan Ymerodraeth Rwsia. Cafodd Lithwania ei feddiannu gan yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac enillodd Lithwania annibyniaeth yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, er bod Vilnius dan reolaeth Gwlad Pwyl am y mwyafrif o'r cyfnod hwnnw. Cafodd ei goresgyn gan y Sofietiaid a'r Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a'i chyfeddiannu gan yr Undeb Sofietaidd ym 1940. Lithwania oedd y weriniaeth Sofietaidd gyntaf i ddatgan ei hannibyniaeth a hynny ym 1990, ond ni enillodd ei hannibyniaeth tan fis Medi 1991. Bellach mae'r wlad yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd a NATO.

Prif nodweddion diwylliant y Lithwaniaid yw llenyddiaeth Lithwaneg, coginiaeth Lithwanaidd, a thraddodiad cerddorol sy'n cynnwys yr offeryn kanklės a'r caneuon gwerin sutartinė. Mae'r mwyafrif o Lithwaniaid yn Babyddion, ac roedd Catholigiaeth yn bwysig wrth ddiogelu'r hunaniaeth genedlaethol dan reolaeth Sofietaidd.[1] Mae gan y Lithwaniaid hefyd nifer o draddodiadau a ddylanwadwyd gan baganiaeth,[1] ac yn hanesyddol bu poblogaeth fawr o Lithwaniaid Iddewig. Cyn yr Ail Ryfel Byd roedd rhyw 7% o boblogaeth Lithwania yn Iddewon (160,000 o bobl),[2] a bu farw 96% ohonynt yn ystod yr Holocost.[3]

Ymfudodd nifer o Lithwaniaid pan oedd eu gwlad dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia a'r Undeb Sofietaidd. Yn y cyfnod o 1868 hyd 1914, ymfudodd tua chwarter o'r holl Lithwaniaid o ganlyniad i dwf poblogaeth, trethi uchel, a chwymp mewn pris grawn.[4] Roedd ymfudwyr Lithwanaidd yn aml yn gweithio mewn diwydiannau trwm, yn y pyllau neu ar y dociau. Ceir cymunedau Lithwanaidd mawr yn yr Unol Daleithiau, Canada,[5] yr Alban,[4] a Brasil. Ymfudodd nifer o Lithwaniaid ar draws Ewrop wedi i Lithwania ymaelodi â'r UE yn 2004, a heddiw mae cymuned o 200,000 yn byw yn y Deyrnas Unedig.[6]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads