Macsen Wledig

gwleidydd (0335-0388) From Wikipedia, the free encyclopedia

Macsen Wledig
Remove ads

Rheolwr yr Ymerodraeth Rufeinig Orllewinol oedd Macsen Wledig (Lladin: Magnus Maximus, tua 33528 Gorffennaf 388), o gwymp yr Ymerodraeth yn 383 tan ei farwolaeth yn 388.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Thumb
Darn aur Solidus yn dangos pen Macsen Wledig a muriau dinas Caergystennin

Celt-Iberiad (Celt o'r Sbaen Rufeinig) oedd Macsen Wledig a ddaeth i ynysoedd Prydain yn y 360au.[1] Cafodd ei orseddu yn Ymerawdwr gan ei fyddin tra roedd ef a hwy yn gwasanaethu ar yr ynysoedd. Gorchfygodd ei brif elyn Gratianus ger Paris ond ar ôl hynny fe'i lladdwyd ganddo mewn brwydr yn Lyons ar 25 Awst 383. Cododd Macsen Wledig brifddinas yn Augusta Treverorum (Almaeneg: Trier) ac roedd yn Gristion.

Cafodd Macsen Wledig ei ddal a'i ladd gan ei gyn-noddwr Theodosius I yn Aquileia ger Trieste yn nhalaith Illyria ar 28 Gorffennaf 388.

Remove ads

Traddodiadau Cymreig

Thumb
Darlun posibl o Facsen Wledig yn Llyfr Oriau Llanbeblig

Yn ôl y chwedl Gymreig ganoloesol Breuddwyd Macsen Wledig, priododd Macsen Elen Luyddog, merch Eudaf o ardal Segontium, y gaer Rufeinig ger Caernarfon, ac mae peth tystiolaeth bod y stori'n wir. Yn yr achau Cymreig nodir Sant Peblig ac Owain fab Macsen Wledig yn feibion i Macsen ac Elen.

Yn ôl y traddodiad Cymreig, Macsen oedd yn gyfrifol am ymadawiad lluoedd Rhufain o Gymru 20 mlynedd cyn gweddill Prydain. Gadawodd Macsen diroedd Cymru yn nwylo’r bobl frodorol, gan gyflwyno trefn o hunanlywodraeth a barodd tua naw cant o flynyddoedd. Am y rheswm hwnnw, mae Macsen wedi ei ystyried yn ’Dad y Genedl Gymreig’.[1]

Dywed Gwynfor Evans mai'r Cymry yn unig o holl bobloedd yr Ymerodraeth wrthsafodd y Germaniaid yn llwyddiannus yn dilyn cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, a bu’r drefn a gyflwynodd Macsen yn un o'r rhesymau pennaf dros hynny.[2]

Mae gan Dafydd Iwan gân enwog sy'n cyfeirio at Macsen, sef "Yma o Hyd".

Remove ads

Llyfryddiaeth

  • Gwynfor Evans, Macsen Wledig a Geni'r Genedl Gymreig (Abertawe, d.d.= 1983)

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads