Makemake (planed gorrach)

From Wikipedia, the free encyclopedia

Makemake (planed gorrach)
Remove ads

Planed gorrach drydedd fwyaf Cysawd yr Haul a leolir yng Ngwregys Kuiper yw Makemake (enw catalog: (136472) Makemake, symbol: 🝼).[1] Mae ganddi ddiamedr o tua 1300–1900 km, sef tua tri chwarter diamedr Plwton. Does gan Makemake ddim lloerennau, hyd y gwyddys, sy'n ei gwneud yn unigryw ymhlith gwrthrychau mwyaf Gwregys Kuiper. Oherwydd ei thymheredd hynod o isel ar gyfartaledd (tua 30 K), gorchuddir ei wyneb â rhew methan, ethan a hefyd nitrogen efallai.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Màs ...
Thumb
Llun artist o'r blaned gorrach

Cafodd Makemake ei darganfod ar 31 Mawrth, 2005 gan dîm o seryddwyr dan arweiniad Michael Brown, a chyhoeddwyd y darganfyddiad ar 29 Gorffennaf yn yr un flwyddyn. Ar 11 Mehefin, 2008, cynhwysodd yr IAU Makemake ar ei restr o wrthrychau i'w hystyried am statws "plwtonaidd", term a ddefnyddir i ddisgrifio planedau corrach sy'n gorwedd y tu hwnt i gylchdro Neifion, a oedd yn cynnwys erbyn hynny Plwton ac Eris. Dosbarthwyd Makemake yn ffurfiol yn un o'r plwtoniaid yng Ngorffennaf 2008.

Remove ads

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads