Mecsico Newydd

talaith yn Unol Daleithiau America From Wikipedia, the free encyclopedia

Mecsico Newydd
Remove ads

Mae Mecsico Newydd (Saesneg: New Mexico, Sbaeneg: Nuevo México, Nafacho: Yootó Hahoodzo) yn dalaith yn ne-orllewin yr Unol Daleithiau, sy'n gorwedd ar y ffin â Mecsico. Ceir tair prif ardal ddaearyddol: llwyfandir gwastad yn y dwyrain, ardal fynyddig yn y canol a dorrir ar ei thraws gan Afon Grande, ac ardal gymysg o fynyddoedd a gwastadiroedd yn y gorllewin. Mae'r trefi a dinasoedd yn gymharol brin a'r boblogaeth i'w cael yn bennaf yn y dinasoedd mawr fel Albuquerque. Roedd Mecsico Newydd ym meddiant Sbaen yn yr 17g ond roedd dan reolaeth Mecsico pan gafodd ei chipio gan yr Unol Daleithiau yn 1848. Ni ddaeth yn dalaith tan 1912, a hynny ar ôl cyfres o ryfeloedd yn erbyn yr Apaches a Navajo brodorol a chyfnod o ansefydlogrwydd nodweddiadol o'r "Gorllewin Gwyllt". Bu rhaid wrth 25 mlynedd ar ôl Rhyfel Cartref America i'r llywodraeth yn Washington fedru sefydlu ei hawdurdod dros y pobloedd brodorol a'r ymsefydlwyr gwyn fel ei gilydd. Cychwynodd hyn yn 1864 pan gafodd y Navajo eu gorfodi i wneud y "Daith Hir" i wersyll Bosque Redondo. Cafodd yr Apache eu symud i amryw wersyll ac ni ddaeth ddiwedd i'r Rhyfeloedd Apache tan i'r pennaeth Geronimo a'i fand bach o ffyddloniaid ildio o'r diwedd yn 1886.

Thumb
Lleoliad New Mexico yn yr Unol Daleithiau
Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...
Remove ads

Dinasoedd Mecsico Newydd

Thumb
Albuquerque
1Albuquerque545,852
2Las Cruces97,618
3Rio Rancho88,901
4Santa Fe67,947
5Roswell48,366

Daeareg

Maint Mecsico Newydd yw 121,412 milltir sgwâr. Mae gan y dalaith anialwch, mynyddoedd, mesáu a fforestydd. Ymysg ei hafonydd yw’r Rio Grande, Afon Pecos, Afon Canadian, Afon San Juan ac Afon Gila.

Mae 5 Fforest Genedlaethol:[1]

Fforest Genedlaethol Carson

Fforest Genedlaethol Cibola

Fforest Genedlaethol Lincoln

Fforest Genedlaethol Santa Fe

Fforest Genedlaethol Gila

Mae Gwasanaeth Parciau Cenedlaethol yr Unol Daleithiau’n rheoli’r parciau isod:- [2]

Thumb
Tai clogwyn Bandelier
  • Cofeb Genedlaethol Llosgfynydd Capulin
  • Parc Genedlaethol Ogofau Carlsbad
  • Parc Hanesyddol Genedlaethol Diwylliant Chaco
  • Llwybr Hanesyddol Cenedlaethol El Camino Real de Tierra Adentro
  • Cofeb Genedlaethol El Malpais
  • Cofeb Genedlaethol El Morro
  • Cofeb Genedlaethol Caer Union
  • Cofeb Genedlaethol Tai Clogwyn Gilat
  • Llwybr Hanesyddol Cenedlaethol yr Hen Sbaenwyr
  • Parc Hanesyddol Genedlaethol Pecos
  • Cofeb Genedlaethol Petroglyff
  • Cofeb Genedlaethol Cenhadaethau Pueblo Salinas
  • Llwybr Hanesyddol Cenedlaethol Santa Fe
  • Cofeb Genedlaethol y Tywodydd Gwynion, Alamogordo
Thumb
Y tywodydd gwynion
  • Cofeb Genedlaethol Rio Grande del Norte
  • Gwarchodfa Genedlaethol Caldera Valles
Remove ads

Cyfeiriadau

Dolen allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads