Rwmaneg

iaith genedlaethol Rwmania a Moldofa From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Rwmaneg (Rwmaneg: română) yw iaith genedlaethol Rwmania a Moldofa. Mae'n perthyn i'r ieithoedd Romáwns yn y teulu Indo-Ewropeaidd o ieithoedd. Mae tua 24 miliwn o bobl yn siarad yr iaith, yn bennaf yn Rwmania. Mae Rwmaneg yn nodweddiadol am fod yn yr unig iaith Romáwns i gadw olion o ogwyddiad Lladin. Mae hi'n iaith sydd wedi'i dylanwadu'n fawr gan yr ieithoedd Slafeg.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...
Rhagor o wybodaeth Statws swyddogol, Codau iaith ...
Remove ads

Moldofeg

Yn ystod y cyfnod Sofietaidd ym Moldofa, cyfeiriwyd at yr iaith frodorol fel Moldofeg (лимба молдовеняскэ) yn hytrach na Rwmaneg, ac fe'i hysgrifennwyd gyda'r wyddor Gyrilig yn hytrach na'r wyddor Ladin. O 1989, yr wyddor Ladin sy'n cael ei defnyddio yn Moldofa fel yn Rwmania, ac fe ddefnyddir y ddau enw, Rwmaneg a Moldofeg, i gyfeirio at yr un iaith. Yn Transnistria er hynny, ble mae'n un o'r ieithoedd swyddogol, enw'r iaith yw Moldofeg, a defnyddir yr wyddor Gyrilig o hyd.

Remove ads

Tu hwnt i Rwmania a Moldofa

Siaradir Rwmaneg gan leiafrif yn Serbia, er enghraifft yn ardal Vojvodina.

Oherwydd mudo, fe'i siaradir hefyd yn Israel, yn ogystal ac yn yr Eidal, Ffrainc, Sbaen, a Portiwgal.

Yng nghyfnod Ceaușescu yn Rwmania, daeth llawer o bobl o'r Dwyrain Canol i astudio yn y wlad - mae'n debyg felly fod nifer sydd wedi symud yn ôl i Libanus, Syria, Palesteina, Irac, Yr Aifft, Swdan a Gwlad Iorddonen yn medru'r iaith o hyd.

Remove ads

Ymadroddion cyffredin

  • franceză : Ffrangeg
  • galeză : Cymraeg
  • engleză : Saesneg
  • Salut! : helô! / hwyl! (Gallwch ddweud salut! wrth gyfarfod neu wrth ymadael.)
  • Ce mai faci? : sut mae?
  • La revedere! : da boch chi! / Hwyl fawr!
  • Vă rog : os gwelwch chi'n dda
  • Mulţumesc: diolch
  • Îmi pare rău : mae'n flin gen i
  • Da : ie / do / oes etc.
  • Nu : nage / naddo / nag oes etc.
Ffeithiau sydyn
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Rwmania. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Ffeithiau sydyn
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads