Morfa Nefyn
pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref bychan yng nghymuned Nefyn, Gwynedd, Cymru, yw Morfa Nefyn[1][2] ( ynganiad ). Saif rhyw filltir i'r gorllewin o dref Nefyn ar ffordd y B4417 ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn. Saif ar fae Porth Dinllaen sydd rhwng Trwyn Porth Dinllaen a Phenrhyn Nefyn.
Mae ganddo un dafarn a bad achub. Roedd yma waith brics o 1868 hyd 1906, ac ar un adeg roedd yn borthladd eithaf prysur. Mae'n le poblogaidd i dwristaid oherwydd y cwrs golff a chyfleusterau hwylio.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]
Yn ôl y Cyfrifiad 2021, 72.3 y cant o'r trigolion dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg.[5] Adroddodd y Cyfrifiad 2011 fod 72 y cant dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg.[5]
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolen allanol
Oriel
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads