Simbabwe

From Wikipedia, the free encyclopedia

Simbabwe
Remove ads

Gwlad yn Affrica Ddeheuol yw Gweriniaeth Simbabwe neu Simbabwe (hefyd Zimbabwe). Lleolir y wlad rhwng afonydd Zambezi a Limpopo. Mae'n ffinio â De Affrica i'r de, â Botswana i'r gorllewin, â Sambia i'r gogledd ac â Mosambic i'r dwyrain ac nid oes ganddi fynediad i'r môr. Harare yw prifddinas y wlad. Cyn annibyniaeth roedd Simbabwe (Rhodesia) yn wladfa Brydeinig.

Ffeithiau sydyn Arwyddair, Math ...
Remove ads

Hanes

Thumb
Rhan o furiau Simbabwe Fawr

Roedd Simbabwe yn ganolfan i ymerodraeth frodorol yn ne Affrica a'i phrifddinas yn Simbabwe Fawr. Mashona oedd y trigolion. Cawsant eu gorchfygu gan y Matabele. Cipiwyd tir y Matabele a'r Mashona gan yr anturiaethwr imperialaidd o Sais Cecil Rhodes a'r Cwmni Prydeinig De Affrica yn 1895 a chafodd ei henwi'n Rhodesia ar ei ôl.

Datganodd Ian Smith, prif weinidog gwyn y wlad, annibyniaeth unochrog (UDI) oddi ar Brydain yn 1965 a datganwyd gweriniaeth yno yn 1970.

Ar ôl rhyfel herwfilwrol hir daeth Robert Mugabe, arweinydd ZANU (PF), yn arlywydd y wlad (gweler isod), yn 1980.

Remove ads

Daearyddiaeth

Prif: Daearyddiaeth Simbabwe

Mae'r rhan fwyaf o'r wlad yn gorwedd ar wastatir uchel, dros 3,300' (1000m) i fyny ar gyfartaledd. Mae llawer o'r tir yn safana.

Gwleidyddiaeth

Prif: Gwleidyddiaeth Simbabwe

Rhaniadau gweinyddol

Rhennir Simbabwe yn wyth talaith a dwy ddinas â statws taleithiol. Is-rennir y taleithiau hynny yn 59 ardal a 1,200 ardal ddinesig.

Thumb
Taleithiau ac ardaloedd Simbabwe

Mae'r taleithiau'n cynnwys:

  • Bulawayo (dinas)
  • Harare (dinas)
  • Manicaland
  • Canolbarth Mashonaland
  • Dwyrain Mashonaland
  • Gorllewin Mashonaland
  • Masvingo
  • Gogledd Matabeleland
  • De Matabeleland
  • Y Canolbarth

Ardaloedd: gweler Ardaloedd Simbabwe

Ardaloedd dinesig: gweler Ardaloedd dinesig Simbabwe

Remove ads

Economi

Demograffeg

Prif: Demograffeg Simbabwe

Mae mwyafrif helaeth y bologaeth yn bobl Bantŵ. Ceir yn ogystal lleiafrif o bobl o dras Ewropeaidd ac Asiaidd, ond mae eu nifer wedi gostwng yn sylweddol mewn canlyniad i'r sefyllfa gwleidyddol diweddar.

Yn ôl cyfansoddiad 2013, mae gan Simbabwe 16 iaith swyddogol: Saesneg, iaith arwyddion a 14 iaith Affricanaidd; y pwysicaf ohonynt yw Ndebele a Shona.

Gweler hefyd

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads