Omnia (band)

From Wikipedia, the free encyclopedia

Omnia (band)
Remove ads

Mae Omnia yn fand "gwerin baganaidd Neo-Geltaidd" o'r Iseldiroedd a Gwlad Belg. Mae'i aelodau'n dod o Iwerddon, yr Iseldiroedd, Lloegr, a Gwlad Belg. Dylanwadir eu cerddoriaeth gan amrywiaeth o ddiwylliannau, megis Iwerddon, Lloegr, ac Affganistan.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Gwlad ...

Maent yn canu yn y Gymraeg, Saesneg, Gwyddelig, Llydaweg, Ffineg, Almaeneg, Lladin, ac Hindi. Ymhlith yr offerynnau yw'r delyn Geltaidd, y delyn geg, yr hyrdi-gyrdi, y bodhrán, y gitâr, y bouzouki, y didgeridoo, ffliwtiau o bob math, y pibgodau, amrywiaeth o ddrymiau, ac offerynnau taro.

Remove ads

Aelodau

Aelodau presennol
  • Sic (Steve Evans-van der Harten; Cernyw, 24 Gorffennaf 1967); Dyn-ffrynt, ffliwtiau, bouzouki, taro, ffliwt helyg, gitâr, llais
  • Jenny (Jennifer Evans-van der Harten); telyn, hyrdi-gyrdi, dwlsimer morthwyliedig, bodhrán, piano, llais
  • Philip 'Etrebomb' Steenbergen (ymunodd yn 2010); gitâr DADGAD
  • Daphyd Sens (ymunodd yn 2011)
  • Rob van Barschoten (ymunodd yn 2011)
Cyn-aelodau
  • Mich (Michel Rozek); drymiau (2007 – 2009)
  • Yoast (Joost van Es); ffidil, gitâr, mandolin (2009 – 2009)
  • Joe (Joseph Hennon) (ymunodd yn 2004); gitâr DADGAD
  • Luka (Louis Aubri-Krieger); llithryn-ddidgeridoo, llais (1996 – 2010)
  • Tom Spaan (2009 – 2011); drymiau
Remove ads

Disgyddiaeth

Thumb
Omnia, 2014
  • Sine Missione (2000)
  • Sine Missione 2 (2002)
  • 3 (2003) – a 3" CD
  • Crone of War (2004) – Albwm sy'n canolbwyntio ar fytholeg Geltaidd, e.e., Rhod y Flwyddyn (Mabon) a duwiau Celtaidd, megis Cernunnos a Taranis.[1]
  • Live Religion (2005) – Albwm byw
  • PaganFolk (2006) – Albwm lle chwaraeir amrywiaeth o offerynnau traddodiadol. Cymharir y steil i gerddoriaeth Almaeneg a'r band Almaeneg Faun.[2]
  • Cybershaman (2007) – Albwm rimics sy'n cynnwys wyth cân Omnia mewn steil cerddoriaeth berlewygon ac electronig.[3]
  • Alive! (2007) – Golygfa'r gwarchod o Macbeth a ysgrifennwyd gan William Shakespeare, "The Raven" gan Edgar Allan Poe, a cherdd gan Lewis Caroll a ddarllenwyd i gerddoriaeth. Crëwyd y gwaith celf gan Alan Lee.[4]
  • History (2007) (sampler Americanaidd) – Albwm casgliad
  • PaganFolk At The Fairy Ball (2008) – Albwm bwy sydd ar gael oddi wrth eu gwefan yn unig
  • Pagan Folk Lore (2008) – DVD
  • World Of Omnia (2009) – Albwm casgliad
  • Wolf Love (2010) – "Jaberwocky" gan Lewis Carroll a ddarllenwyd i gerddoriaeth.
Remove ads

Dolenni perthnasol i ganeuon a berfformir gan Omnia

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads