Palesteiniaid

From Wikipedia, the free encyclopedia

Palesteiniaid
Remove ads

Grŵp ethnig yn y Dwyrain Canol yw'r Palesteiniaid (Arabeg: الشعب الفلسطيني‎, ash-sha`b al-filasTīni). Ei mamwlad yw Palesteina. Mae'r term Palesteiniaid sy'n cyfeirio at drigolion sy'n siarad Arabeg ac sy'n tarddu o Balesteina neu a symudodd yno ar ôl 1917. Pobol heb wlad sofran, sy'n ymgyrchu drwy'r Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd dros hawliau sylfaenol a thros greu gwladwriaeth Balesteinaidd annibynnol.

Ffeithiau sydyn Enghraifft o:, Math ...

Mae cyfanswm eu poblogaeth drwy'r byd rhwng 10 ac 11 miliwn. Mae eu hanner yn byw ym Mhalesteina; mae'r rhelyw wedi eu gwasgaru drwy wledydd eraill, yn aml heb ddinasyddiaeth swyddogol.[1]

Thumb
Plant yn ninas Jenin.

Mwslemiaid Sunni yw trwch y boblogaeth, er bod llawer ohonynt yn Gristnogion ac yn ddilynwyr ambell grefydd arall erbyn heddiw. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd y dechreuwyd ddefnyddio'r term 'Palesteiniaid' i olygu'r Arabiaid hyn.[2]

Cânt eu cynrychioli o flaen gwledydd eraill y byd, yn bennaf, gan y PLO sef Mudiad Rhyddid Palesteina.[3][4] Yn 1921 cyhoeddodd Cynghrair Syria-Palesteina yr awydd a'r alwad am annibyniaeth. Yn yr Iorddonen mae tair miliwn o'r Palesteiniaid yn byw ac mae nifer sylweddol yn Llain Gaza, Y Lan Orllewinol ac Israel; mae'r gweddill (y pum miliwn arall) yn ffoaduriad mewn gwahanol wledydd, e.e. Libanus a Syria, gan nad oes ganddynt wlad sofranaidd.

Dros y blynyddoedd cafwyd cryn wrthdaro rhwng yr Israeliaid a'r Palesteiniaid; cafwyd Intifada Cyntaf Palesteina rhwng 1987 ac 1991 ac yna Ail Intifada'r Palesteiniaid rhwng 2000 a 2005. Cafwyd hefyd gwrthdaro llai a mwy penodol megis ymosodiad byddin Israel ar Balesteiniaid Llain Gaza o'r awyr.

Thumb
Dyn Palesteinaidd yn dychwelyd adref drwy ffin goncrit a godwyd gan Israel.
Remove ads

Rhai Palesteiniaid enwog

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads