Paul Volcker
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Banciwr ac economegydd Americanaidd oedd Paul Adolph Volcker (5 Medi 1927 – 8 Rhagfyr 2019) a fu'n gadeirydd y Gronfa Ffederal o 1979 i 1987.
Ganed yn Cape May, New Jersey, i deulu o dras Almaenig. Astudiodd hanes, economeg, a gwyddor gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Princeton i ennill ei radd baglor yno yn 1949, a derbyniodd ei radd meistr mewn economi wleidyddol a llywodraeth o Harvard yn 1951. Astudiodd hefyd am gyfnod yn Ysgol Economeg Llundain cyn iddo ymuno â Chronfa Ffederal Efrog Newydd yn swydd economegydd yn 1952. Treuliodd chwarter canrif cyntaf ei yrfa yn gweithio yn Wall Street ac yn Adran y Trysorlys.[1]
Fe'i penodwyd yn gadeirydd y Gronfa Ffederal, banc canolog yr Unol Daleithiau, gan yr Arlywydd Jimmy Carter yn Awst 1979.
Remove ads
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

