Penrhosgarnedd
un o faestrefi Bangor, Gwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Pentref ydy Penrhosgarnedd ( ynganiad ), sy'n rhan o blwyf Pentir, wedi ei leoli i'r de o ddinas Bangor yng Ngwynedd. Mae'r pentref yn cael ei ffinio gan yr A55 i'r de ac yn toddi fewn i Fangor wrth ymyl hen gapel Beulah i'r gogledd. Saif pentref Treborth i'r gorllewin ac ardal Minffordd i'r dwyrain.
Mae adeiladau Ysbyty Gwynedd yn sefyll ynghanol y pentre ac mae swyddfeydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yma (gynt yn Dŵr Cymru).
Mae gan y pentre gangen o Ferched y Wawr[1] a thîm Talwrn y Beirdd.[2]
Mae yna ddwy ysgol gynradd yn y pentre - ysgol ddwyieithog Ysgol Y Faenol ac ysgol benodedig Gymraeg Ysgol y Garnedd.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]
Remove ads
Pobl nodedig
- Prifardd Llion Jones
- Ffion Dafis
- Owain Tudur Jones
- Casi Wyn
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads