Phoenix, Arizona
ddinas yn yr Unol Daleithiau From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas yng ngorllewin yr Unol Daleithiau yw Phoenix. Hi yw prifddinas a dinas fwyaf talaith Arizona. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 1,552,259; Phoenix yw'r unig brifddinas talaith yn yr Unol Daleithiau sydd a phoblogaeth dros filiwn, a saif yn bumed o ran dinasoedd yr Unol Daleithiau yn ôl poblogaeth. Roedd poblogaeth yn ardal ddinesig yn 2007 yn 4,179,427.
Trigolion gwreiddiol yr ardal oedd pobl frodorol yr Hohokam, oedd yn defnyddio camlesi i ddyfrhau'r tiroedd ar gyfer tyfu cnydau. Gostyngodd y boblogaeth yn raddol oherwydd prinder dŵr, a bychan oedd y boblogaeth erbyn dechrau'r 19g. Sefydlwyd y ddinas tua 1867 gan Jack Swilling, mewn man lle roedd olion camlesi'r Hohokam. Yn ddiweddarach, enwyd y ddinas yn "Phoenix" ar ôl y Ffenics chwedlonol, oherwydd fod y ddinas wedi tyfu ar olion sefydliad cynharach.
Remove ads
Gefeilldrefi Phoenix
Dolen allanol
- (Saesneg) www.phoenix.gov Archifwyd 2011-02-25 yn y Peiriant Wayback

Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads
