Plaid Unoliaethol Ulster

From Wikipedia, the free encyclopedia

Plaid Unoliaethol Ulster
Remove ads

Plaid Unoliaethol yng Ngogledd Iwerddon yw Plaid Unoliaethol Ulster (Saesneg: Ulster Unionist Party neu UUP).

Ffeithiau sydyn Arweinydd, Llywydd ...
Remove ads

Hanes

Fel rhan o’r cytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a'r cenedlaetholwyr Gwyddelig yn 1921, cytunwyd i rannu Iwerddon. Daeth 26 o siroedd Iwerddon yn annibynnol yn 1922 fel Gwladwriaeth Rydd Iwerddon, tra parhaodd chwech sir yn y gogledd-ddwyrain (allan o’r naw sir sy’n ffurfio Wlster) yn rhan o'r Deyrnas Unedig gyda senedd ddatganoledig yn Stormont. Daeth Syr James Craig yn Brif Weinidog. O 1929 ymlaen, Plaid Unoliaethol Ulster oedd y brif blaid Unoliaethol, a bu mewn grym am hanner can mlynedd.

Dros y blynyddoedd bu trigolion Catholig Gogledd Iwerddon dan anfanteision o ran cael swyddi, cael tai a materion eraill, gyda Protestaniad yn cael eu ffafrio. Yn y 1960au, ceisiodd y Prif Weinidog Terence O'Neill newid rhywfaint ar y system, ac wedi iddo ef ymddiswyddo, parhawyd hyn gan ei olynydd, James Chichester-Clark, ond gwrthwynebid hyn gan lawer o Unoliaethwyr, megis Ian Paisley.

David Trimble oedd arweinydd y blaid rhwng 1995 a 2005. Roedd ei gefnogaeth i Gytundeb Belffast yn annerbyniol i lawer yn y blaid, a bu ymraniad. Daeth Trimble yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon yn y llywodraeth a sefydlwyd ar y cyd a'r cenedlaetholwyr dan y cytundeb rhannu grym, ond yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005, collodd yr UUP bump o'i chwe sedd yn San Steffan. Collodd Trimble ei hun ei sedd, ac ymddiswyddodd. Daeth Syr Reg Empey yn arwenydd y blaid yn ei le, ond collodd y blaid ei safle fel y brif blaid Unoliaethol i Blaid yr Unoliaethwyr Democrataidd.

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads