Prifysgol Plymouth

From Wikipedia, the free encyclopedia

Prifysgol Plymouth
Remove ads

Prifysgol ym Mhlymouth a phrifysgol fwyaf yn ne-orllewin Lloegr ydy Prifysgol Plymouth (Saesneg: University of Plymouth), gyda dros 30,000 o fyfyrwyr a'r pumed mwyaf ym Mhrydain yn ôl nifer y myfyrwyr.[4] Mae bron i 3,000 o aelodau staff gan ei gwneud yn un o gyflogwyr mwyaf de-orllewin Lloegr, ac mae ganddi incwm blynyddol o tua £160 miliwn.

Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
Ffeithiau sydyn Sefydlwyd, Math ...
Remove ads

Y brifysgol

Mae Prifysgol Plymouth yn brifysgol fodern, sydd wedi cael ei ddatblygu'n sylweddol, gan gynnwys nifer o adeiladau newydd. Ar sail canlyniadau 2008, mae Plymouth wedi neidio 15 safle yn y restr y "Research Assesment Excercise" i ymuno â'r 50 prifysgol orau ym Mhrydain, hwy sydd wedi gwella fwyaf ym maes perfformiad ymchwil ers yr RAE diwethaf yn 2001.[5] Neidiodd y brifysgol hefyd 33 safle, yn nhablau cynghrair The Guardian' a gyhoeddwyd ym mis Mai 2006, o 73ydd safle yn 2005 i 40fed safle yn 2006. Cododd bum safle i 35ed yng gyhoeddiad 2007;[6] Mae tablau The Times, yn wahanol i'r Guardian yn cynnwys perfformiadau ymchwil wrth gyfrifo'r safleoedd, ac mae'n nhw'n rhestru Plymouth yn 55ed,[7] ac yn ei alw'n un o'r ddwy brifysgol fodern orau ym Mhrydain.[8] Disgrifiai'r Guardian y brifysgol fel un sy'n "meddwl ymlaen", yn ogystal â gosod Plymouth yn y "20 uchaf" ar gyfer deg pwnc yn cynnwys gwaith cymdeithasol (5ed), pensaernïaeth, celfyddyd gain, a drama. Ynghyd â'r ailstrwythuro presennol, targed y brifysgol yw i ddod yn "Y brifysgol menter" ("The enterprise university"),[9] peth colynnol mewn dinas a adnabyddir fel prifddinas menter de-orllewin Lloegr.[10]

Yr athro Roland Levinsky oedd is-ganghellor y brifysgol hyd ei farwolaeth ar 1 Ionawr 2007, pan gerddodd mewn i geblau trydanol byw a oedd wedi disgyn mewn storm.[11] Cymerodd yr athro Mark Cleary ei swydd dros-dro (ef yw is-ganghellor Prifysgol Bradford erbyn hyn),[12] ac olynwyd ef gan yr athro Steve Newstead. Ar 1 Rhagfyr 2007, daeth Wendy Purcell yn is-ganghellor.

Remove ads

Hanes

Coleg Polytechnic oedd y brifysgol yn wreiddiol, gyda Polytechnic Plymouth, Coleg Rolle a Choleg Seale-Hayne yn rhan ohoni. Ailenwyd yn "Polytechnic South West" ym 1989, gan barhau gyda'r enw hwnnw hyd iddynt ennill statws prifysgol ym 1992 ynghyd â cholegau polytechnic eraill. Daeth Ysgol Astudiaethau Morwrol Plymouth School a Choleg Tavistock yn rhan ohoni yr un adeg.

Thumb
Adeilad Roland Levinsky.
Thumb
Gwaith adeiladu'r campws celf newydd ar Rowe Street.

Yng nghyfnod yr is-gangellor ar y pryd, Roland Levinsky, dechreuodd y brifysgol weithredu polisi o ganoli ei weithgareddau ar gampusau ym Mhlymouth. Symudodd y Gyfadran Celfyddydau o Gaerwysg i adeilad celf newydd a enwyd ar ôl Roland Levinsky, ym mis Awst 2007, gan ddod a phynciau'n cynnwys Celfyddyd Gain, Hanes Celf, Ffotograffeg, a Dylunio 3-D Design i Blymouth. Yr un adeg, symudodd y Gyfadran Theatr a Pherfformiad, a leolwyd yn Exmouth, i'r adeilad hwn yn ogystal.

Symudwyd y Gyfadran Addysg a leolwyd gynt yng nghampws Exmouth, ar hen safle Coleg Rolle, i adeilad newydd Adeilad Rolle ym mis Awst 2008. Roedd y penderfyniad i'w symud yn un amhoblogaidd ymysg myfyrwyr Exmouth, a bu sawl gorymdaith i brotestio ac ymgyrch i gadw'r campws ar agor.[13]

Un eithriad i'r gweithgareddau canoli, yw gwaith y brifysgol yn y maes addysg ar gyfer y galwedigaethau iechyd. Caiff eu myfyrwyr eu haddysgu mewn Colegau Addysg Bellach drwy gydol Dyfnaint, Cernyw a Gwlad yr Haf, megis yng Ngholeg Celf Dartington. Ers 2006, mae'r brifysgol yn rhedeg coleg newydd, Coleg Meddygaeth a Deintyddiaeth Peninsula, ar y cyd gyda Prifysgol Caerwysg a'r Gwasnanaeth Iechyd Genedlaethol yn yr ardal.[14] Caiff adeilad newydd yn Derriford, i'r gogledd o'r ddinas, a agorwyd yn 2008 ac a gostiodd £16 miliwn, ei rannu rhwng Goleg Meddygaeth a Deintyddiaeth Peninsula a Chyfadran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.[15] Mae'r adeilad newydd yn darparu ystafelloedd dysgu, swyddfeydd, labordy sgiliau clinigol a chyfleusterau ymchwil.[14]

Mae datblygiadau a gwblhawyd yn ddiweddar yn cynnwys Sgwar Portland, ymestyniad i'r llyfrgell, ac adnoddau labory a dysgu newydd ac wedi eu adnewyddu mewn nifer o adailadau campws, neuaddau preswyl ac Ysgol Fusnes.[15]

Yn 2006, cafodd adfeilion lloches cyrch awyr yr Ail Ryfel Byd eu dadorchuddio ar y campws yn Sgwar Portland.[16] Disgynodd fom ar y lleoliad hwn yn ystod y Blits ar 22 Ebrill 1941, gan ladd dros 70 o sifiliaid, gan gynnwys mam a'i chwe phlentyn.[16]

Dewiswyd Prifysgol Plymouth gan y Royal Statistical Society ym mis Hydref 2008, i ddod yn gartref iw Ganolfan ar gyfer Addysg Ystadegol.[17]

Remove ads

Academyddion nodedig

Mae staff y brifysgol yn cynnwys Colin Rallings a Michael Thrasher, sydd wedi ysgrifennu'n eang am systemau etholiadol, ymddygiad pleidleisio, chanlyniadau arolygon barn a gwleidyddiaeth Prydeinig, maent yn ymddangos yn gyson ar raglenni teledu etholiadau cenedlaethol ar y BBC ac ITV. Mae academyddion eraill o ~iod yn cynnwys Dr Roy Lowry[18], a dorodd record y byd ar gyfer lawnsio y nifer mwyaf o rocedi ar unwaith, ym mis Awst 2006;[19] Dr Iain Stewart sydd wedi bod yn westai ar nfer o raglenni dogfen y BBC megis Journeys into the Ring of Fire a Journeys from the Centre of the Earth; a hefyd Dr Angela Smith sydd wedi cyhoeddi nifer o weithiau sydd wedi cael eu dathlu, ar bwnc rhyw a rhyfela yn yr 20g.

Cyn-fyfyrwyr nodedig

  • Graddiodd y cyflwynydd CBBC, Jeff Turner o'r brifysgol yn 2002.
  • Graddiodd y band roc Seisnig, Muse, o'r brifysgol yn 2008, gyda Doethuriaethau Celfyddydau anrhydeddus.[20]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads