R. Geraint Gruffydd

Academydd Cymreig From Wikipedia, the free encyclopedia

R. Geraint Gruffydd
Remove ads

Ysgolhaig ac Athro prifysgol oedd Robert Geraint Gruffydd, MA DPhil DLitt (9 Mehefin 1928 - 24 Mawrth 2015),[1][2] a arbenigodd mewn llenyddiaeth y Dadeni, y Diwygiad Protestannaidd a’r Piwritaniaid cynnar.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Roedd yn fab i Moses Griffith, a fu'n Drysorydd Plaid Cymru.

Bu farw'n 86 oed. Cyhoeddwyd cyfrol deyrnged iddo yn Ebrill 1996, sef Beirdd a Thywysogion.

Remove ads

Bywgraffiad

Dyddiau cynnar

Ganwyd Geraint Gruffydd yn Nhal-y-bont, Meirionnydd yn 1928, a’i fagu yng Ngheredigion yng Nghwm Ystwyth a Chapel Bangor.

Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Bangor (lle y graddiodd yn y Gymraeg) ac yn 1948 cychwynodd fel myfyriwr yng Ngholeg Iesu, Rhydychen.[3] Enillodd ei Ddoethuriaeth o Brifysgol Rhydychen â'i draethawd ymchwil Religious Prose in Welsh from the Beginning of the Reign of Elizabeth to the Restoration (1953).

Gyrfa

Bu’n olygydd cynorthwyol Geiriadur Prifysgol Cymru cyn cychwyn fel darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Bangor yn 1955.

Yn 1970 fe'i penodwyd yn Athro Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac yna'n llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1980. Rhwng 1985 a 1993 bu'n gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.

Remove ads

Gweler hefyd

Llyfryddiaeth

  • "In that gentile country …": The Beginnings of Puritan Nonconformity in Wales (Pen-y-bont ar Ogwr: Evangelical Library of Wales, 1976)
  • (gyda Emyr Roberts) Revival and its Fruit (Pen-y-bont ar Ogwr: Evangelical Library of Wales, 1981)
  • (golygydd) Bardos (1982)
  • (golygydd) Meistri'r Canrifoedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1982) - detholiad o ysgrifau llenyddol gan Saunders Lewis
  • Y Gair ar Waith (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988)
  • "Y Beibl a droes i'w bobl draw": William Morgan yn 1588 / "The Translating of the Bible into the Welsh Tongue" by William Morgan in 1588 (Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, 1988)
  • Llenyddiaeth y Cymry: Cyflwyniad Darluniadol 2 (Llandysul: Gwasg Gomer, 1989)
  • William Morgan: Dyneiddiwr (Darlith Goffa Henry Lewis) (1989)
  • (golygydd) Cerddi Saunders Lewis (Gwasg Prifysgol Cymru, 1992)
  • "Edmyg Dinbych": Cerdd Lys Gynnar o Ddyfed (1992)
  • Y Ffordd Gadarn: Ysgrifau ar Lên a Chrefydd, gol. E. Wyn James (2008)
  • Y Gair a'r Ysbryd: Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth, gol. E. Wyn James (2019)

Fel golygydd llawysgrifau Canoloesol, bu'n olygydd cyffredinol Cyfres Beirdd y Tywysogion a chyfrannodd i sawl cyfrol, yn cynnwys:

Yn ogystal, cyfranodd i sawl cyfrol yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr.

Ceir llyfryddiaeth lawn o'i waith hyd at 1995 yn Beirdd a Thywysogion, gol. B. F. Roberts ac M. E. Owen (1996), a llyfryddiaeth o'i gyhoeddiadau rhwng 1996 a 2015 yn Y Gair a'r Ysbryd: Ysgrifau ar Biwritaniaeth a Methodistiaeth, gol. E. Wyn James (2019).

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads