Ron Kitching

From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Seiclwr rasio, perchennog siop a cyfanwerthwr darnau beic o Loegr oedd Ron Kitching (ganwyd 14 Ebrill 1916,[1] Barrow-in-Furness, Cumbria - bu farw 17 Rhagfyr 2001, Gogledd Swydd Efrog).[2] Roedd Kitching yn llwyddiannus yn y 1930au a bu'n bencampwr ar y ffordd yn y Treial Amser. Defnyddiod ei brofiad fel rasiwr i sefydlu siop feic yn Harrogate ac wedyn cwmni cyfanwerthu yn mewnforio ac allforio nwyddau beic. Roedd catalog Everything Cycling Ron Kitching yn boblgaidd iawn, bron fel breuddwyd ar gyfer seiclwyr. Noddodd Ron nifer o seiclwyr a rasus gyda'i enillion fel cyfanwerthwr llwyddiannus, gan gynnwys yr enwog Beryl Burton.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Ers canol y 1990au, Kitching oedd noddwr a chymwynaswr hael y British Schools Cycling Association.

Mae clwb feics Otley yn rhedeg amgueddfa 'Llyfrgell Ron Kitching'.

Ysgriffenwyd bywgraffiad Ron Kitching, A Wheel in Two Worlds: The Ron Kitching Story gan Michael Breckon yn 1993.

Remove ads

Canlyniadau

1944
3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads