Russell Howard

From Wikipedia, the free encyclopedia

Russell Howard
Remove ads

Mae Russell Joseph Howard[1] (ganed 23 Mawrth 1980)[2] yn gomedïwr, cyflwynydd teledu a radio, ac actor o Loegr. Fe'i adnabyddir am ei ymddangosiadau ar y rhaglen banel bynciol Mock the Week, ac am ei raglen deledu Russell Howard's Good News. Yn ôl Howard, mae'r comedïwyr Lee Evans, Richard Pryor a Frank Skinner wedi dylanwadu ar ei waith.[3]

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Remove ads

Bywyd

Ganwyd Howard ym Mryste yn fab i Dave a Ninette Howard. Mae ei chwaer a brawd iau, o'r enwau Kerry a Daniel, yn efeilliaid.[4] Mynychodd Ysgol Perins a Choleg Alton yn Hampshire cyn mynd yn ei flaen i astudio economeg ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste.[5] Mae Howard yn byw gyda'i gariad Cerys sy'n feddyg. Maent yn byw yn Leamington Spa, Swydd Warwick gyda'u ci o'r enw Archie.[6][7] Mae Howard yn cefnogi Clwb Pêl-droed Lerpŵl a chwaraeodd dros Clwb Pêl-droed Basingstoke Town cyn dod yn gomedïwr.[8]

Remove ads

Gyrfa

Teledu a radio

Rhwng 2006 a 2010, yr oedd Howard yn banelydd rheolaidd ar Mock the Week ar BBC Two. Rhwng 2006 a 2008 yr oedd hefyd yn gyflwynydd ar y rhaglen radio wythnosol The Russell Howard Show ar BBC Radio 6 Music.[9][10] Ers 2009, y mae wedi bod yn cyflwyno'r gyfres gomedi Russell Howard's Good News, yn gyntaf ar BBC Three, ac wedyn ar BBC Two.[11][12] Pleidleisiwyd y rhaglen fel y Rhaglen BBC Three Orau Erioed ym mis Chwefror 2013.[13] Ym mis Rhagfyr 2015, gwnaeth Howard ei ddebut actio yn A Gert Lush Christmas ar BBC Two, rhaglen yr oedd hefyd yn cyd-ysgriennu. Mae Howard hefyd wrthi ar hyn o bryd yn cyflwyno ail gyfres Russell Howard's Stand Up Central ar Comedy Central. Bydd hefyd yn cyflwyno'r gyfres o raglenni dogfen teithio gyda'i fam, Travels With My Mum In The US, ar yr un sianel.[14]

Comedi byw

Roedd Howard ar daith yn 2007 gyda'i sioe Adventures a ryddhawyd ar DVD o dan y teitl Russell Howard Live.[15] Dechreuoedd ar daith gyda'i ail sioe Dingledodies yn 2008[16], cyn dychweld gyda thrydedd sioe yn 2009 o'r enw Big Rooms and Belly Laughs.[17] Roedd un arall yn 2011 o'r enw Right Here Right Now, ac yn 2014 aeth ar daith eto gyda'i sioe Wonderbox.[18] Bydd yn dychwelyd i'r llwyfan yn 2017 gyda'i sioe Round The World, taith a fydd yn ymweld â'r Deyrnas Unedig, Iwerddon, Ewrop, Awstralia, Seland Newydd a'r Unol Daleithiau.[19]

Remove ads

Ymddangosiadau teledu a radio

Teledu

  • Shaun of the Dead – (2004) - Zombie (heb gredyd)
  • Mock the WeekBBC Two (2006–2010) - panelydd
  • Never Mind the Buzzcocks – BBC Two (2006, 2007) - panelydd; (2013) - cyflwynydd gwadd
  • Rob Brydon's Annually Retentive – BBC Three (2007)
  • Would I Lie to You?BBC One (2007) - panelydd
  • Live at the Apollo – BBC One (2007, 2009)
  • Law of the PlaygroundChannel 4 (2008)
  • The Secret Policeman's Ball 2008 – Channel 4 (2008)
  • 8 Out of 10 Cats – Channel 4 (2008) - panelydd
  • Russell Howard's Good News – BBC Three/Two (2009–presennol) - cyflwynydd
  • The Graham Norton Show – BBC One (2010)
  • Conan – TBS (2011)
  • Children in Need 2011 – BBC One (2011)
  • Jon Richardson: A Little Bit OCD – Channel 4 (2012)
  • The Jonathan Ross ShowITV (2012, 2013)
  • The Big Fat Quiz of the Year – Channel 4 (2012) - panelydd
  • Red Nose Day 2013 – BBC One (2013)
  • A League of Their Own – Sky 1 (2014) - panelydd
  • Gadget Man – Channel 4 (2014)
  • Russell Howard's Stand Up Central – Comedy Central (2015-presennol) - cyflwynydd
  • Alan Davies: As Yet Untitled – Dave (2015) (Cyfres 3, Pennod 4)
  • A Gert Lush Christmas – BBC Two (2015) - Dan Colman (hefyd yn gyd-ysgrifennwr)
  • Room 101 - BBC One (2016) - gwestai/panelydd
  • Travels With My Mum In The US - Comedy Central (2016)

Radio

  • The Milk RunBBC Radio 1 (2004)
  • Political AnimalBBC Radio 4 (2004)
  • Banter – BBC Radio 4 (2005)
  • The Russell Howard Show – BBC Radio 6 Music (2006–2008)

DVDau comedi ar ei sefyll

Rhagor o wybodaeth Teitl, Dyddiad rhyddhau ...

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads