Sam Houston

From Wikipedia, the free encyclopedia

Sam Houston
Remove ads

Gwladweinydd, gwleidydd a milwr Americanaidd o'r 19g oedd Samuel Houston (2 Mawrth 179322 Gorffennaf 1863). Arweiniodd Texas i annibyniaeth ym mrwydr San Jacinto a daeth yn arlywydd cyntaf Gweriniaeth Texas.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...

Fe'i ganwyd yn Timber Ridge yng Nghwm Shenandoah, Virginia, yn bumed mab i Major Samuel Houston, linach Sgotig Ulster, a'i wraig Elizabeth Paxton. Ar ôl marwolaeth ei dad ym 1807, symudodd y teulu i Tennessee ddwyreiniol. Ymladdodd Sam Houston yn y Rhyfel 1812 ble cyfarfu'r mentor Andrew Jackson. Astudiodd yn swyddfa yn Nashville a daeth yn gyfreithiwr yn Lebanon, Tennessee. Ym 1827, cafodd Houston ei ethol yn Llywodraethwr Tennessee. Fe briododd Eliza Allen, 19 oed, o Gallatin, Tennessee ar 22 Ionawr 1829, ond daeth y briodas i ben yn fuan wedyn. Aeth Houston i'r gorllewin i fyw gyda'r Cherokee yn Nhiriogaeth Arkansas gan briodi un ohonynt, Tiana Rogers.

Aeth Houston i Texas Mecsicanaidd yn Rhagfyr 1832. Derbyniodd Texas annibyniaeth o Mecsico ar 2 Mawrth 1836. Arweiniodd fyddin Texian i fuddugoliaeth yn erbyn Byddin Mecsico dan Antonio López de Santa Anna ym mrwydr San Jacinto ar 21 Ebrill 1836. Daeth Houston yn arlywydd cyntaf Gweriniaeth Texas ar 22 Hydref 1836.

Remove ads

Dolenni allanol

Ffeithiau sydyn
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads