Siân Melangell Dafydd

bardd From Wikipedia, the free encyclopedia

Remove ads

Bardd o Llwyneinion ger y Bala, Gwynedd, yw Siân Melangell Dafydd (ganed Ebrill 1977). Ffug enw: "Mynydd Segur", sef cam-gyfieithiad o Montségur, Ariège, yn région Ocsitania, Ffrainc (castell Cathar nid nepell o'r lle bu'n ysgrifennu'r rhan fwyaf o nofel ddiweddar).

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Remove ads

Gyrfa

Fe’i haddysgwyd yn Ysgolion Bro Tegid a Berwyn, y Bala, ond cwblhaodd ei Safon A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Graddiodd gyda gradd MA mewn Hanes Celf o Brifysgol St Andrews, yr Alban, cyn gweithio mewn orielau gwahanol o Lundain i Chianti. Treuliodd flynyddoedd fel Rheolwr Marchnata Sgript Cymru cyn mynd yn ôl i’r coleg i gwblhau gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol East Anglia (UEA), Norwich.

Cyflwynwyd y Fedal Ryddiaith yn 2009 iddi mewn seremoni arbennig ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau ddiwedd brynhawn Mercher. Y beirniaid yn y Bala oedd Manon Rhys, Tony Bianchi, ac Elwyn Ashford Jones.

Mae hi bellach yn gweithio’n llawrydd ac yn rhannu ei hamser rhwng Cymru a Pharis. Golygydd y cylchgrawn Taliesin oedd hi.

Yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor,[1] yn 2024 arweiniodd gyfres o gyflwyniadau a sgyrsiau dan enw Coel Gwrach ar wrachyddiaeth yng Nghymru fodern gynnar ac yn benodol ar dreialon, cyhuddiadau, ac erlyniadau pum person a ddienyddwyd ar gyhuddiad o fod yn "wrachod".[2]

Remove ads

Llyfryddiaeth

Llyfrau gwreiddiol

Addasiadau

Gwobrau ac Anrhydeddau

Enillydd y Fedal Ryddiaith

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads