Tal-y-llyn (pentrefan)

pentref yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia

Tal-y-llyn (pentrefan)
Remove ads

Pentrefan bach a chyn plwyf yng nghymuned Llanfihangel-y-Pennant, Gwynedd, Cymru, yw Tal-y-llyn.[1][2] Saif ar lannau Llyn Mwyngil yn agos at bentref Abergynolwyn. Roedd y plwyf gwreiddiol yn 36,000 erw (15,000 ha).[3] Eglwys y Santes Fair, Tal-y-llyn, oedd canolfan y plwyf o'r canol oesoedd hyd ddatblygu'r diwydiant llechi yn ne Meirionnydd yn y 1780au. Agorwyd chwareli yn ardaloedd Corris ac Aberllefenni o blwyf Tal-y-llyn a daeth y pentrefi a thyfodd o amgylch y chwareli yn bwysicach o ran poblogaeth a gweithgarwch na phentref y llan.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...

Mae eglwys y plwyf yn dyddio o'r 13g, gyda'r strwythur presennol yn dyddio o tua 1590 (gydag olion yn awgrymu eglwys gynharach o'r 6g). [3] Mae'n adeilad rhestredig Gradd II *.[4] Mae John David Edwards (1805-1885), offeiriad Eglwys Loegr a chyfansoddwr yr emyn dôn Rhosymedre, wedi'i gladdu ym mynwent yr eglwys.[5]

Llifa Afon Dysynni allan o'r llyn ger pentref Tal-y-llyn, gan ymdroelli tuag at Fae Ceredigion i'r gogledd o Dywyn. Mae olion Llyn y Tri Greyeyn i'w gweld ar gyrion yr hen blwyf ym Mwlch Llyn Bach.

Adeiladwyd Rheilffordd Talyllyn yn y 1860au i wasanaethu'r chwareli ym Mryn Eglwys. Er na chyrhaeddodd at y llyn na'r pentref erioed, a ni fu cynlluniau iddi wneud hynny, roedd terfynfa'r rheilffordd yn y plwyf, a thrwy hynny yn rhoi ei henw i'r rheilffordd.[6] Bellach mae twristiaeth yn un o brif ddiwydiannau'r ardal, ac mae'r pentrefan yn cynnwys gwesty a thafarn.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[7] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[8]

Remove ads

Cyfeiriadau

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads