Tesla Model X
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Car trydan llawn ei faint SUV crossover ydy Tesla Model X, a gynhyrchir gan Tesla Motors. Mae ganddo ddrysau sy'n codi i fyny (falcon wing) er mwyn cael mynediad i'r ail a'r trydydd rhes o seddi ac mae'n yrriant 4-olwyn. Lansiwyd y cynlluniau yn stiwdios Tesla yn Los Angeles ar 9 Chwefror 2012.[5] Ei chwaer fach yw'r Tesla Model S.
Yn ôl Asiantaeth Gwarchod Amgylchedd yr UDA (iaith wreiddiol: United States Environmental Protection Agency (EPA)) gall deithio rhwng 250–257 milltir (402–414 km) ar un llenwad o'i fatris a dywedir fod ei gyfradd milltir/galwyn (myg) ynghyd â'i ddefnydd i ynni yn gyfystyr (e) i 89 myg-e (23 kWh/100 km or 39 kWh/100 mi).[6] Yn 2016, mewn cymhariaeth, roedd y Toyota Prius yn cyflawni 95 myg-e.[7]
Ceir sawl math: 75D (tua £82,380, 90D, P90D/Ludi a'r P100D/Ludi (tua £129,080).[8]
Addasiad o'r Tesla Model S ydyw, gyda'r ddau fath yn cael eu cynhyrchu yn ffatri Tesla yn Fremont, California. Dechreuwyd gwerthu Model X ym Medi 2015,[9] ac yn ystod y 12 mis cyntaf roedd tua 2,700 uned wedi'u gwerthu.[10]

Remove ads
Pris
Yn 2016 roedd pris y car LE yn amrywio rhwng US$132,000 a US$144,000,[11]. Mewn cymhariaeth, pris y Model S (70D) oedd US$75,000.[12]
Batris
Mae dau ddewis: batri lithiwm-ion 75 neu 90 kW·h – yr dewis a roddir i'r Model S[5]. O ran perfformiad mae'r sbec uchaf y batri gorau yn galluogi'r car i fynd o 0-60 myg (0 i 97 km/h) mewn 3.2 eiliad.[13] sy'n gyflymach na phob SUV - a llawer o geir cyflym.[3][14][15]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads