Totnes
tref yn Nyfnaint From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Tref farchad a phlwyf sifil yn Nyfnaint, De-orllewin Lloegr, yw Totnes,[1] sy'n gorwedd ar aber afon Dart. Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan South Hams. Saif tua 22 milltir (35 km) i'r de o ddinas Caerwysg ac mae'n ganolfan weinyddol Cyngor Dosbarth South Hams, o fewn Dyfnaint.
Mae Caerdydd 122 km i ffwrdd o Totnes ac mae Llundain yn 278.6 km. Y ddinas agosaf ydy Plymouth sy'n 33.2 km i ffwrdd.
Remove ads
Hanes
Codwyd castell yn Totnes yn 907 ac roedd yn dref farchnad o bwys erbyn y 12g. Adlewyrchir cyfoeth y lle yn y gorffennol gan y sawl tŷ marsiandïwr hen yno, sy'n dyddio o'r 16g a'r ganrif olynol.
Cysylltir Totnes â chwedl Brutus, cyndad chwedlonol y Brythoniaid y ceir ei hanes yng ngwaith Nennius a Sieffre o Fynwy. Yn ôl y ffug-hanes, glaniodd Brutus a'i ddilynwyr yn Totnes pan gyrhaeddasant Ynys Prydain ar ôl hwylio o Gaerdroea. Nodir y safle honedig gan garreg a elwir yn "Garreg Brutus" (Saesneg: Brutus Stone). Does dim sail hanesyddol i'r chwedl.
Remove ads
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads

