Turku
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Dinas ar arfordir de-orllewin y Ffindir ar aber Afon Aura yw Turku (Ffinneg: [ˈturku], Swedeg: Åbo [ˈoːbu]). Gwladychwyd y dref yn ystod y 13eg ganrif a sefydlwyd hi ar ddiwedd y ganrif honno, sy'n golygu mai dinas hynaf y Ffindir yw hi. Daeth yn ddinas bwysicaf y wlad, a bu felly am ganrifoedd. Ar ôl i'r Ffindir ddod yn rhan o Ymerodraeth Rwsia ym 1809, symudwyd prifddinas Uchel Ddugiaeth y Ffindir i Helsinki ym 1812, ond Turku oedd y ddinas fwyaf poblog yn y Ffindir tan ddiwedd y 1840au. Mae'n dal yn brifddinas ranbarthol ac yn ganolbwynt busnes a diwylliant.

Remove ads
Enw
Mae'r enw Ffinneg Turku yn deillio o air Hen Slafeg Dwyreiniol tǔrgǔ, sy'n golygu "marchnad".[1] Mae'r gair turku yn dal i olygu "marchnad" mewn rhai idiomau yn y Ffinneg. Torg yw'r gair Swedeg am farchnad ac mae'n debyg iddo gael ei fenthyg o Hen Slafeg Dwyreiniol, ond roedd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn Hen Swedeg.[2]
Mae'r enw Swedeg Åbo i'w weld yn hawdd ei esbonio, oherwydd iddo gynnwys y geiriau å ("afon") a bo ("nyth, annedd") a allai olygu rhyweth tebyg i "dŷ'r afon". Er hynny, mae geirdarddwyr yn credu bod yr esboniad hwn yn anghywir gan mai hen enw yw ef ac nad oes dim enwau tebyg eraill.[3] Ceir hen derm cyfreithiol o'r enw åborätt (sy'n golygu "hawl i fyw yn"), a oedd yn rhoi'r hawl etifeddadwy i ddinasyddion ("åbo") i fyw ar dir a oedd yn perthyn i'r goron.[4]
Awgrymwyd hefyd fod yr enw Ffinneg Turku yn cyfeirio at y farchnad yn wreiddiol ond bod yr enw Swedeg Åbo yn cyfeirio at y castell.
Yn Ffinneg, Turun yw cyflwr genidol Turku, felly mae llawer of enwau Ffineg ar sefydliadau Turku yn dechrau gyda'r gair hwn, er enghraifft, Turun yliopisto am Brifysgol Turku.
Remove ads
Gefeilldrefi
Gefeilliwyd Turku â:
|
|
Mae gan Turku gytundebau cydweithredu â'r dinasoedd hyn:
Remove ads
Oriel
- Castell Turku
- Amgueddfa Gelf Turku
- Yr Amgueddfa Fferylliaeth
- Y Llys Apêl
- Amgueddfa Grefftau Luostarinmäki
- Eglwys Mihangel
- Eglwys Marthin
- Afon Aura
- Eglwys Uniongred Turku
- Maenor Brinkhall ar ynys Kakskerta
- Eglwys Kakskerta
- Yr Hen Felin yn Samppalinna
Cyfeiriadau
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads