Ysgol Gyfun Bro Myrddin
From Wikipedia, the free encyclopedia
Remove ads
Ysgol uwchradd yng Nghroesyceiliog, Caerfyrddin ydy Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, mae'n gwasanaethu ardal tref Caerfyrddin, Dyffryn Tywi, a rhannau eraill o orllewin, gogledd, a de Sir Gaerfyrddin. Ers 2016 mae wedi bod yn ysgol categori 2CH ydyw, yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru. Mewn ysgol o'r fath addysgir pob pwnc ac eithrio’r Gymraeg a’r Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig i bob disgybl.[1] Y pennaeth presennol yw Dr Llinos Jones, hi yw'r pedwerydd olynydd i'r swydd ers sefydlu'r ysgol ym mis Medi 1978.
Remove ads
Hanes

Roedd sefydlu'r ysgol yn 1978 yn gryn sialens gan nad oedd yr awdurdod addysg yn gweld galw uniongyrchol am addysg uwchradd Gymraeg, er bod sawl ysgol gynradd leol yn bodoli cyn hynny gan gynnwys, Ysgol y Dderwen yn nhref Caerfyrddin ei hun. Roedd adnoddau cyntefig iawn am ychydig dros bymtheg mlynedd.
Ail-leolwyd yr ysgol o Gaerfyrddin i safle newydd ger Croesyceiliog, mewn adeiladau eithaf safonol a modern. Lleolwyd yr ysgol gynt yng nghanol tref Caerfyrddin yn hen adeiladau Fictorianaidd yr ysgol ramadeg.


Yn ddiweddar mae'r ysgol wedi lansio ymgyrch i wella darpariaeth pynciau cyfoes megis Adeiladwaith a Thrin Gwallt ac ym Medi 2008 agorwyd y ganolfan Sgiliau, mewn cydweithrediad efo Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Ysgol Gyfun y Strade, ac Ysgol Gyfun Maes-Yr-Yrfa.
Cynhelir Eisteddfod Ysgol yn flynyddol yn neuadd yr ysgol, a cynhelir mabolgampau ar drac rhedeg Caerfyrddin, yn Nhre Ioan ger Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth.
Remove ads
Addysg
Ysgol Bro Myrddin sydd â canlyniadau TGAU gorau yn Sir Gaerfyrddin, heblaw Ysgol Bonedd St. Michael's, Llanelli. Enillodd tua 84% o ddisgyblion graddau TGAU A*–C yn 2007, sydd yn ffigwr uchel. Mae'r ysgol yn rhoi pwyslais ar gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hyn yn cael ei hatgyfnerthu gan wasanaethau boreol, gwersi a phrofiadau niferus eraill o fewn a thu allan i'r ysgol.
Penaethiad Bro Myrddin
- 1978–1996 Mr Gareth Evans
- 1996–2006 Mr Eric Jones
- 2006–2013 Mr Dorian T. Williams
- 2013– Dr Llinos Jones
Cwricwlwm
- Pynciau Craidd: Cymraeg, Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth
- Dyniaethau: Hanes, Daearyddiaeth ac Addysg Crefyddol
- Pynciau Creadigol: Drama, Dylunio a Technoleg a Cerdd
- Technoleg: TG, Deunydd Gwrthiannol, Arlwyaeth, Iechyd a Gofal, Tecstiliau, Gweithgynhyrchiad Dodrefn a cynhyrchion graffigol
- Ieithoedd Modern: Ffrangeg, Almaeneg
- Eraill: Astudiaethau Busnes
Swyddogion
Penaethiaid Blwyddyn
Remove ads
Cyn-ddisgyblion enwog
Gweler hefyd y categori: Pobl addysgwyd yn Ysgol Gyfun Bro Myrddin
- Euros Childs, cerddorwr a chyfansoddwr
- Emma Bolam, gwyddonydd a Phennaeth Cynhyrchu yn Sefydliad Jenner (sefydliad sy'n ymchwilio brechlynnau newydd)
- Heledd Cynwal, cyflwynydd teledu
- Llyr Huws Gruffydd, gwleidydd ac Aelod o'r Senedd
- Elis James, digrifwr ac actor
- Stephen Jones, cyn-chwaraewr rygbi i'r Sgarlets a thîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru ac hyfforddwr i'r thîm rygbi' Cymru
- Ken Owens, chwaraewr Rygbi i'r Sgarlets a thîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru
- Rhys Priestland, chwaraewr Rygbi i Caerfaddon a thîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru
- Eurig Salisbury, prifardd a darlithydd prifysgol Cymreig
- Matthew Stevens, chwaraewr snwcer
- Welsh Whisperer, canwr gwlad
Remove ads
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
Wikiwand - on
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Remove ads