Llyr Huws Gruffydd

gwleidydd o Gymro From Wikipedia, the free encyclopedia

Llyr Huws Gruffydd
Remove ads

Gwleidydd Cymreig ac aelod o Blaid Cymru yw Llyr Huws Gruffydd, a adnabyddir weithiau fel Llyr Hughes Griffiths (ganed 25 Medi 1970). Mae'n Aelod o'r Senedd dros Etholaeth ranbarthol Gogledd Cymru.[1]

Ffeithiau sydyn Llŷr Huws Gruffydd AS, Arweinydd Plaid Cymru ...
Remove ads

Cefndir

Mynychodd Gruffydd Ysgol Gyfun Bro Myrddin a Phrifysgol Aberystwyth. Dechreuodd ei yrfa fel gweithiwr ieuenctid, gan ddod yn Uwch Swyddog Datblygu gydag Asiantaeth Ieuenctid Cymru a Phrif Swyddog dros Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Ieuenctid Cymru.

Mae'n byw ger Rhuthun yn Sir Ddinbych ac hyd ei ethol ym Mai 2011, bu'n gweithio yn Llandudno fel Swyddog Cyfathrebu Cymru Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cyn hynny, bu'n rheolwr gyda chwmni datblygu economaidd Menter a Busnes.

Remove ads

Gwleidyddiaeth

O 1999 hyd 2003, gweithiodd Gruffydd fel ymchwilydd a swyddog y wasg dros Aelodau Senedd Ewrop, Jill Evans ac Eurig Wyn. Ef hefyd oedd cydlynydd ymgyrch cenedlaethol Dafydd Wigley, ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999, pan fu Wigley yn Llywydd Plaid Cymru.

Daeth o fewn 400 pleidlais o gipio sedd Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro oddi ar Christine Gwyther yn 2003, pan fu'n ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer yr etholaeth.

Wedi symud i fyw i Sir Ddinbych yn 2004, ef oedd ymgeisydd dros Orllewin Clwyd yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2010, gan gynyddu canran y blaid o'r pleidleisiau o dros 50% ac ennill y tro mwyaf yn y wlad tuag at Plaid.

Yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2011, etholwyd yn aelod dros Ranbarth Gogledd Cymru, gyda 21% o'r bleidlais.[2]

Yn dilyn ymddiswyddiad Adam Price fel arweinydd Plaid Cymru ym Mai 2023, daeth Gruffydd yn arweinydd dros dro.[3]

Remove ads

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.

Remove ads