tref a chymuned yng Ngheredigion, Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref arfordirol a chymuned yng Ngheredigion, Cymru, yw Aberaeron. Saif ar briffordd yr A487 tua hanner ffordd rhwng Aberteifi ac Aberystwyth. Mae lôn arall, yr A482, yn cysylltu'r dref â Llanbedr Pont Steffan i'r dwyrain.
Math | tref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,422 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 158.28 ha |
Cyfesurynnau | 52.24245°N 4.25939°W |
Cod SYG | W04000357 |
Cod OS | SN458628 |
Cod post | SA46 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Elin Jones (Plaid Cymru) |
AS/au | Ben Lake (Plaid Cymru) |
Adeiladwyd y dref gan y Parch Alban Thomas Jones-Gwynne ym 1805. Mae'r tai wedi'u gosod mewn patrwm ffurfiol — o dan ddylanwad y pensaer John Nash, medd rhai.
Crëwyd harbwr ar geg Afon Aeron, ac yn fuan daeth y dref yn ganolfan bysgota bwysig. Erbyn hyn, cychau hwylio sydd i'w gweld yn harbwr Aberaeron. Mae'r traeth yn braf ac wedi ennill baner las am ei lendid.
Gan fod Aberaeron rhwng de a gogledd Ceredigion, yma bellach mae pencadlys Cyngor Sir Ceredigion. Mae 1,422 o bobl yn byw yn y dref ac mae tua 60% ohonynt yn siaradwyr Cymraeg (2011); un o'r canrannau uchaf ar arfordir Ceredigion heddiw. Yr Aelod lleol o Senedd Cymru yw Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).
Gerllaw ceir plasdy hynafol Llannerch Aeron, sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Lleolir Ysgol Gyfun Aberaeron yn y dref.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Aberaeron (pob oed) (1,422) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberaeron) (832) | 59.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberaeron) (936) | 65.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Aberaeron) (370) | 50.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.