From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Al Jazeera (Arabeg: الجزيرة, al-jazīrah; IPA: [aldʒaˈziːra], sy'n golygu "Yr Ynys" yn Arabeg), yn rhwydwaith teledu rhyngwladol sydd a'i phencadlys yn Doha, Catar.[1] Yn wreiddiol, lawnsiwyd y sianel fel sianel teledu lloeren Arabeg ar gyfer newyddion a materion cyfoes Arabaidd, ond bellach mae Al Jazeera wedi ehangu i fod yn rhwydwaith gyda nifer o ganghennau gan gynnwys safle gwe a sianeli teledu arbenigol mewn amryw o ieithoedd ac mewn sawl rhan o'r byd, yn cynnwys Saesneg.
Enghraifft o'r canlynol | darlledwr, gorsaf deledu |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1 Tachwedd 1996 |
Perchennog | Al Jazeera Media Network |
Sylfaenydd | Hamad bin Khalifa Al Thani |
Rhiant sefydliad | Al Jazeera Media Network |
Pencadlys | Doha |
Gwefan | https://www.aljazeera.com/, https://www.aljazeera.net/, https://chinese.aljazeera.net/, http://aljazeera.com.tr/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Perchennog Al Jazeera yw Llywodraeth Qatar.[2][3][4][5][6] Er hyn, cadarnhaodd swyddogion y sianel ar nifer o achosion eu bod yn annibynnol eu barn o'r Llywodraeth.
Cafodd y sianel sylw'r byd yn dilyn ymosodiadau Medi'r 11eg, 2001 pan ddarlledodd ddatganiadau gan Osama bin Laden ac arweinwyr eraill al-Qaeda. Hi oedd yr unig sianel a ddarlledai o Affganistan yn anterth y rhyfela, a hynny'n fyw o'u swyddfeydd yn Affganistan.[7]
Erbyn heddiw mae'n un o'r sianeli teledu newyddion rhyngwladol mwyaf cyfarwydd a dylanwadol yn y byd.
Yn 2003 fe huriodd y cwmni newyddiadurwyr Saesneg eu hiaith, gan gynnwys Afshin Rattansi,[8] a weithiai cyn hynny i'r rhaglen Today Programme y BBC. Ac ym Mawrth yr un flwyddyn, lansiodd ei wefan Saesneg.[9] Ar 4 Gorffennaf 2005 cyhoeddodd Al Jazeera wasanaeth lloeren newydd - un Saesneg ei iaith o'r enw Al Jazeera International.[10]
Mae'r ymgyrchydd gwleidyddol o'r Alban George Galloway yn cyfrannu'n rheolaidd i'r sianel drwy ei raglen wythnosol.
Cychwynodd y sianel newydd hwn ar ei waith am 12.00 (GMT) ar 15 Tachwedd 2006 o dan yr enw Al Jazeera English, gyda'i ganolfanau darlledu yn Doha (y drws nesa i'r pencadlys gwreiddiol), Llundain, Kuala Lumpur a Washington, D.C.. Mae'n sianel newyddion 24 awr, 7-dydd yr wythnos, gyda 12 awr yn cael ei darlledu o Doha, a phedair awr yr un o Lundain, Kuala Lumpur a Washington.
Yn Ionawr 2013, prynnodd Al Jazeera Media Network cyn gwmni Al Gore, sef Current TV a thrwy hynny lansiwyd Al Jazeera yn yr Unol Daleithiau yn Awst 2013.[11]
Yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon, mae Al Jazeera ar gael ar lwyfan Sky a Freesat yn ogystal ag ar deledu daearol digidol. Ar 26 Tachwedd 2013 lansiodd y cwmni rai sianeli HD ar rai o'u trosglwydyddion.[12] Gellir derbyn Al Jazeera am ddim drwy Ewrop, hanner gogleddol Affrica a'r Dwyrain Canol gyda derbynnydd DVB-S gan ei fod yn cael ei darlledu o loerennau Astra 1M, Eutelsat Hot Bird 13A, Eutelsat 10A, Badr 4, Turksat 2A, Thor 6, Nilesat 102, Hispasat 1C ac Eutelsat 28A. Mae'r lloeren Optus C1 yn ei darlledu hefyd yn Awstralia.
Ceir cofnod fideo manwl a chynhwysfawr o Ryfel Affganistan (a nifer o ryfeloedd a digwyddiadau eraill) ar Comin Wikimedia; dyma enghreifftiau:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.