Clwb Pêl-droed Cymraeg From Wikipedia, the free encyclopedia
Clwb pêl-droed o dref Cei Connah, Sir Y Fflint ydy Clwb Pêl-droed Cei Connah (Saesneg: Connah's Quay Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru.
Enw llawn | C.P.D. Cei Connah | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | Y Nomadiaid | ||
Sefydlwyd | 1946 | ||
Maes | Stadiwm Glannau Dyfrdwy | ||
Rheolwr | |||
Cynghrair | Uwch Gynghrair Cymru | ||
2023/24 | 2. | ||
|
Ffurfiwyd y clwb ym 1946[1] fel Ieuenctid Cei Connah cyn mabwysiadu'r enw Nomadiaid Cei Connah ym 1952, ond ers 2008 mae'r clwb, am resymau nawdd, wedi ei adnabod fel gap Cei Connah.
Maent yn chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy, maes sydd yn dal uchafswm o 1,500 o dorf gyda 500 o seddi.
Coch yw’r prif liw sy’n cynrychioli CPD Cei Connah. Llysenw y tîm yw’r ‘Nomads’
Sefydlyd Clwb Ieuenctid Cei Connah gan chwaraewr Everton a Chymru, T.G. Jones oedd yn frodor o'r dref[1]. Gyda tîm hŷn yn cael ei sefydlu ym 1948, ymunodd y clwb â Chynghrair Sir Y Fflint cyn newid ei enw i'r Nomadiaid ym 1952 ac ymuno â Chynghrair Cymru (Y Gogledd)[2]. Llwyddodd y clwb i ennill Cwpan Amatur Cymru ym 1952-53[1].
Ym 1974-75 roedd y Nomadiaid yn aelodau gwreiddiol o Gynghrair Clwyd[3] cyn sicrhau dyrchafiad i Gynghrair Undebol y Gogledd ac yna cael eu hethol yn un o glybiau gwreiddiol y Gynghrair Undebol[4].
Pan sefydlwyd Uwch Gynghrair Cymru ym 1992 cafodd y Nomadiaid eu dewis yn un o glybiau gwreiddiol y gynghrair.
Un o uchafbwyntiau'r clwb oedd curo Kilmarnock F.C. o Uwch Gynghrair yr Alban 0:2 ar 18 Gorffennaf 2019 yn rownd gyntaf Cynghrair Europa UEFA gan ennill 3:2 dros ddau gymal[5] gan fynd drwyddo i'r ail rownd yn erbyn F.K. Partizan Belgrâd o Serbia.
Tymor | Cystadleuaeth | Rownd | Clwb | Cymal 1af | 2il Gymal | Dros Ddau Gymal |
---|---|---|---|---|---|---|
2016–17 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | Stabæk | 0-0 | 0–1 | 1–0 |
Rhag 2 | FK Vojvodina | 0-1 | 1-2 | 1–3 | ||
2017–18 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | HJK | 1-0 | 0–3 | 1–3 |
2017–18 | Cynghrair Europa UEFA | Rhag 1 | Shaktyor Soligorsk | 1−3 | 0–2 | 1–5 |
2019–20 | Cynghrair Europa UEFA | 1Q | Kilmarnock | 1–2 | 2–0 | 3–2 |
2Q | Partizan |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.